Daeth cynulleidfa dda yn gynnar i Neuadd Ysgol Emlyn a chroesawyd pawb i'r eisteddfod car noson braf i gan gan gadeirydd y pwyllgor Bethan Jones.

Llywydd y noson oedd Angela Williams, Brynawelon, Castell Newydd ac roedd y beirniaid i'r cystadlu lleol o Ysgol y Preseli, Eirian Wyn Jones ar y llefaru a Glenys George yn feirniad canu. Ceri Wyn Jones oedd y beirniad lln.

Bu yr arbrawf o gyflwyno offer cyfieithu yn llwyddiant mawr a'r rhieni di-Gymraeg wedi mwynhau cymaint yn fwy. Diolch yn fawr i Enfys Williams o gwmni cyfieithu Dewis am ei hynawsedd.

Dyma ganlyniadau nos Wener: Unawd hyd at Blwyddyn 2: 1, Osian Evans, Ysgol Trewen; 2, Dion Edwards, Ysgol y Ddwylan; 3, Siwan Medi, Y Ddwylan. Llefaru hyd at blwyddyn 2: 1, Gwenno Thomas, Y Ddwylan; 2, Owain Taylor, Y Ddwylan; 3, Osian Evans, Ysgol Trewen. Unawd i oed blwyddyn 3 a 4: 1, Bethan Green, Y Ddwylan; 2, Gwenllian Davies, Y Ddwylan; 3, Leah Thomas, Y Ddwylan. Llefaru i oed Blwyddyn 3 a 4: 1, Dion Davies, Y Ddwylan; 2, Ifan Phillips, Y Ddwylan; 3, Leah Thomas, Y Ddwylan. Unawd I oed Blwyddyn 5 a 6: 1, Emma Edwards, Y Ddwylan; 2, Hannah Edwards, Y Ddwylan; 3, Elin Non Thomas, Y Ddwylan. Llefaru I oed Blwyddyn 5 a 6: 1, 1, Steffani James, Y Ddwylan; 2, Cadi Haf Thomas, Y Ddwylan; 3, Elin Non Thomas, Y Ddwylan, Emma Pellham, Y Ddwylan. Llefaru I ddysgwyr dan 12 oed: 1, Emy Kempton, Y Ddwylan; 2, Rhian Leonard, Y ddwylan; 3, Sian Evans, Y Ddwylan. Unawd offeryn cerdd I blant Ysgolion Cyntaff y cylch: 1, Elin Non Thomas, Y Ddwylan; 2, Emma Pellham, Y Ddwylan; 3, Cadi Haf Thomas, Y Ddwylan. Cor Plant Ysgol Gynradd: 1, Ysgol Hafodwennog; 2, Ysgol y Ddwylan. Grwp llefaru i oed Ysgol Gynradd: 1, Parti Emlyn. Parti unsain oed Ysgol Gynradd: 1, Parti Merched Ysgol y Ddwylan; 2, Parti Blwyddyn 1 a 2 Ysgol y Ddwylan; 3, Parti Bechgyn Ysgol y Ddwylan. Cafwyd sgwrs gartrefol iawn gan y llywydd ble bu'n dwyn atgofion teithio mewn A40 i bob rhan o Gymru i eisteddfota. Rhoddodd gyngor i'r plant lleol i ddyfal barhau i feithrin eu doniau i'r dyfodol gan fod y cyfleoedd yn y byd cerddorol a chyfryngol yn eang iawn erbyn hyn. Y buddugol yn y gystadleuaeth 'Tlws Cynradd' oedd Emma Edwards, Maesarad, Aberarad, Castell Newydd Emlyn. Fe'i cyfarchwyd gan Dion ei brawd a'i chwaer Hannah. Fe gyflwynodd ei chwaer fach Jessica y tlws iddi. Cafwyd deunaw o ymgeiswyr ac fe ganmolodd Ceri Wyn safon a brwdfrydedd yr ysgrifenwyr ifanc. Yn ail oedd Gareth Taylor, Henllan ac Emma Edwards eto'n drydydd. Yn l Ceri Wyn cystadleuaeth y Tlws Ieuenctid oedd y gystadleuaeth uchaf ei safon drwyddi draw yn yr adran lenyddol. Cerdd Hei Ho i'r Haf oedd yn fuddugol; cerdd oedd hi am berson yn dioddef o'r Lludded. Roedd y gerdd gampus yn eiddo i Llinos Davies, Pontweli, Llandysul. Llongyfarch-iadau iddi a phob dymunad da i'r dyfodol. Daeth yr eisteddfod i ben yn hwylus iawn cyn iddi dywyllu! Diolch yn fawr i'r ysgolion lleol am eu cefnogaeth, i'r plant am eu brwdfrydedd ac i'r athrawon am eu hyfforddi.

Dydd Sadwrn Pleser oedd cael croesawu Gareth Rhys Davies o Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru ac Ilid Anne Jones,, Llanfaglan, Caernarfon fel beirniaid cerdd. Bronwen Morgan oedd y beirniad llefaru a'r Pirfardd Ceri Wyn Jones oedd y beirniad lln. Yn flynyddol, mae'n bleser o'r mwya croesawu Jeanette Massocchi fel cyfeilydd i - mae ei chyfraniad yn arbennig wrth gyfeilio i'r lleiaf amhrofiadol ac i'r profiadol. Dyma ganlyniadau'r sesiwn gyntaf: Unawd dan 6: 1, Cerian Haf, Ciliau Aeron; 2, Jessica Edwards, Castell Newydd Emlyn; 3, Siwan Fflur Dafydd, Llandeilo. Llefaru dan 6: 1, Cerian Haf; 2, Siwan Fflur Dafydd; 3, Steffan Thomas, Rosebush. Unawd o 6 - 8: 1, Dion Edwards, Castell Newydd Emlyn; 2, Gwenllian Llwyd, Talgarreg; 3, Sioned Thomas, Rosebush. Llefaru o 6 - 8: 1, Gwenllian Llwyd; 2, Teleri Medi Phillips, Ciliau Aeron; 3, Rhian Jones Llanwennog, a Sioned Thomas. Unawd o 8 - 10: 1, Ceris Tomos, Bryngwyn; 2, Elliw Mair, Llanbed; 3, Hannah Edwards, Castell Newydd Emlyn. Llefaru o 8 - 10: 1, Elliw Mair, Llanbed; 2, Heledd Llwyd, Talgarreg; 3, Mared Dafydd, Llandeilo. Unawd o 10 - 12: 1, Pippa Williams, Llysyfran; 2, Emma Edwards, Castell Newydd Emlyn; 3, Delyn Nia, Maenclochog. Llefaru o 10 - 12: 1, Ilar Rees, Penparc; 2, Jos Jones, Llanon, Aberystwyth; 3, Huw Evans, Llanddeiniol, Aberystwyth. Unawd o 12 - 16: 1, Lowri Heulwen, Maenclochog; 2, Hywel Davies, Treffgarne, Hwlffordd; 3, Rhodri Evans, Bow Street. Deunawd dan 16: 1, Emma a Hannah, Castell Newydd Emlyn; 2, Hywel a Vaughan Davies, Treffgarne, Hwlffordd. Llefaru o 12 - 16: 1, Huw Bryant, Castell Newydd Emlyn; 2, Lowri Heulwen, Maenclochog; 3, Carwyn Evans, Llanddeiniol. Unawd ar unrhyw offeryn cerdd dan 16 oed: 1, Hywel Davies, Treffgarne; 2, Sara Mair, Smithies, Llanidloes; 3, Vaughan Davies, Treffgarne a Huw Evans, Llanddeiniol. Unawd Alaw Werin dan 16 oed: 1, Sara Mair, Smithies, Llanidloes; 2, Lowri Heulwen, Maenclochog; 3, Hywel Davies, Treffgarne. Unawd Cerdd Dant dan 16: 1, Hannah Edwards, Castell Newydd Emlyn; 2, Lowri Heulwen, Maenclochog; 3, Sion Edwards, Castell Newydd Emlyn. Cyflwyno Tarian Her Cerdd Emlyn i'r cystadl-euydd mwyaf addawol o dan 16 yn yr Adran Gerdd: Hywel Davies, Treffgarne, Hwyllfordd am yr ail flwyddyn yn olynol. Daeth y sesiwn brynhawn i ben yn brydlon gan ganiatau ychydig o seibiant cyn gweithgareddau'r nos. Diolch yn fawr i'r cystadleuwyr ifanc am eu cefnogaeth a'u cyd-gyfeillgarwch wrth lwyfannu. Roedd hi'n bleser rhannu eu cwmni.

Sesiwn yr hwyr: Unawd dan 25 oed: 1, Hywel Davies, Treffgarne, Hwlffordd; 2, Rhodri Evans, Bow Street; 3, Elen Jones, Bryngwyn; 4, Aled Powys Williams, Saron, Rhydaman. Unawd dan 25 oed allan o sioe gerdd: 1, Aled Powys Evans, Saron, Rhydaman; 2, Hywel Davies, Treffgarne, Hwlffordd; 3, Rhodri Evans, Bow Street; 3, Elen Jones, Bryngwyn. Cystadleuaeth Unawdydd Ifanc 2003 dan 25 oed: 1, Aled Powys Williams, Saron, Rhydaman. Llefaru dan 25 oed: 1, Huw Bryant, Castell Newydd Emlyn. Canu Emyn dros 60 oed: 1, D J Jones, Waungilwen; 2, Gwynfor Harries, Blaenannerch; 3, Aled Jones, Machynlleth. Cor dros 18 oed: 1, Adlais, Llandeilo; 2, Cor Blaenporth. Her Unawd: 1, Nia Mair Lewis, Penrhyncoch; 2, Juys Housmanns, Tregroes; 3, Margaret Morris Bowen, Llanelli; 3, John Davies, Llandybie; 5, David Maybury, Maesteg; 6, Crwys Evans, Pontrhydygroes. Cystadleuaeth Lefaru neu Gyflwyniad Llafar I unigolion dros 16 oed: 1, Sulwen Davies, Drefach, Llanelli. Unawd Gymraeg wreiddiol: 1, John Davies, Llandybie; 2, Kees Huysmans, Tregroes; 3, Margaret Morris Bowen, Llanelli; 4, Gwynfor Harries, Blaenannerch. Llywydd y Dydd, ddydd Sadwrn oedd Rhiannon Bevan, Sain Ffagan. Yn frodor o'r ardal cyfeiriodd at ei hoffter i ddychwelyd i'w milltir sgwar. Pwysleisiodd bwysigrwydd tri pheth mewn cymuned sef, amgylchfyd, yr economi, a'r gymdeithas. Tri pheth sydd yn gryf yn ein hardal a thri pheth y dylem weithio'n galed i'w cynnal. Canmolodd waith pwyllgor yr eisteddfod yn hyn o beth. Enillydd cadair Eisteddfod Castell Newydd Emlyn eleni oedd Iwan Rhys, Ty Cynheidre, Porthyrhyd, Caerfyrddin. Canmolodd y Prifardd Ceri Wyn ef am ei hyder barddol a'i ddawn naturiol i gynganeddu. Fe'i cyfarchwyd gan D J Lewis, Gwen Jones a Mari Wyn. Canwyd cn y cadeirio gan Neville Morgan gyda Marian O'Tool wrth y delyn. Llywiwyd y seremoni gan Anne Pash. Yr Englyn: 1, J Beynon Phillips, Brechfa. Telyned: 1, Parch O R Parry, Rhuthun. Stori fer: 1, Hefin Wyn, Y Mot. Limrig: 1, Phil Davies, Talybont. Brawddeg: 1, Ann Wyn Owen, Rhoscolyn, Ynys Mon . Darn o Ryddiaith:1, John Lewis, Caerfyrddin. Daeth y cystadlu i ben cyn y Sul wedi eisteddfod hwylus iawn. Yng ngeiriau Bethan Jones, cadeirydd y pwyllgor, does ond diolch i bawb yn ddi-wahan, yn gystadleuwyr, yn feirniaid, yn gyfeilyddion, yn hyffor-ddwyr a chefnogwyr, yn gynulleidfa, yn ofalwyr y drws, yn wragedd y gegin a Neville, y Gofalwyr, Pennaeth a llywodraethwyr Ysgol Emlyn. Diolch hefyd i'r noddwyr hael. Fe fydd y croeso yr un y flwyddyn nesa!