Yn dilyn llwyddiant y grwp cerdded Cymraeg newydd yn ardal Aberteifi y llynedd, mae grwp Cerddwyr Cylch Teifi yn ei ôl.

Byddwn yn cwrdd yr ail ddydd Sadwrn bob mis, am daith gylch o ryw ddwy awr, gan ddechrau am 10.30 bob tro. Bydd croeso cynnes i bawb ac mae am ddim.

Y daith gyntaf, ddydd Sadwrn Hydref 10, fydd taith gylch Pwllgwaelod, Pen Dinas a Chwmyreglwys (2.75 milltir) ar Lwybr Arfordir Sir Benfro a Dr Mark Ellis-Jones fydd yr arweinydd. Cwrdd ym Maes Parcio Pwllgwaelod (SN 006 399) erbyn 10.30yb.

I Gilgerran y byddwn yn mynd ar yr ail daith, Tachwedd 14, gyda Dyfed Elis-Gruffydd yn arwain ac yn rhoi peth o hanes yr ardal i ni, gan gynnwys y diwydiant llechi, y castell, eglwys Llawddog Sant, a hanes rhyfeddol Afon Teifi a’r ceunant. Cwrdd ym Maes parcio Dolbadau (SN197 429), Cilgerran erbyn 10.30.

Mae rhaglen o deithiau wedi’i pharatoi am y 9 mis nesaf, felly cysylltwch os hoffech dderbyn y manylion llawn.