Yn wyneb y trafferth a gafodd aelod ifanc o’r Gymdeithas i gael prawf gyrru Cymraeg mewn ardal Gymraeg ei hiaith, mae Rhanbarth Caerfyrddin o Gymdeithas yr Iaith wedi datgan nad oes syndod mai ychydig sy’n mynd allan o’u ffordd i ofyn am wasnaethau Cymraeg.

Mae Ioan Teifi yn ddisgbybl chweched dosbarth yn Ysgol Dyffryn Teifi ac ar fin cymryd ei arholiadau lefel-A. Gan iddo fod yn ymarfer gyrru, roedd yn awyddus i gymryd ei brawf cyn cymryd yr arholiadau terfynol a mynd i’r coleg wedi gwaith yn yr haf. Wrth fod ei deulu’n ffonio’r Asiantaeth Safonau Gyrru i logi prawf, cafwyd ar ddeall y gellid cymryd prawf Saesneg yn Llanbedr Pont Steffan yn ystod gwyliau’r Pasg neu ar Ddydd Llun cyntaf y tymor newydd (20/4), ond nad oedd modd cymryd prawf yn Gymraeg. Wedi pwyso, trefnwyd 3 "slot" Cymraeg ar gyfer Dydd Mawrth 21ain Ebrill a bydd Ioan felly’n gorfod cymryd bore o’r ysgol ddau ddiwrnod cyn ei arholiad cyntaf am iddo fynnu gwneud y prawf yn Gymraeg.

Dywedodd tad Ioan, Ffred Ffransis (aelod o senedd Cymdeithas yr Iaith) "Mae Ioan tan anfantais gan ei fod yn mynnu cymryd ei brawf yn Gymraeg. Meddyliais efallai fod amgylchiadau eithriadol y mis hwn, ac felly holais faint o slotiau Cymraeg oedd ar gael ar gyfer profion gyrru yn Llanbedr ym mis Mai. Fe ges i wybod fod 4 slot Cymraeg a thros 90 slot Saesneg – a hynny yn un o drefi Cymreiciaf Cymru. Yng Nghaerfyrddin, roedd y sefyllfa hyd yn oed yn waeth. Nid oedd unrhyw slot Cymraeg ar system yr Asiantaeth ar gyfer mis Mai yng Nghaerfyrddin er bod cannoedd o slotiau Saesneg. Dywedant eu bod weithiau’n gallu symud staff a newid slotiau i rai Cymraeg os gwneir cais arbennig am hyn fel yn achos "Anghenion Arbennig" eraill !! Dyma oedi a thrafferth ychwanegol lle cewch ateb a llogi prawf yn syth yn unrhyw slot rhydd os gwnewch y prawf yn Saesneg.

Ychwanegodd Mr Ffransis " Mae Ioan yn benderfynol o wneud y prawf yn Gymraeg, ac mae aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi hen arfer pwyso ar y sefydliad. Ond dyw hi ddim yn syndod o gwbl nad yw mwyafrif ein pobl am gael y trafferth o fynnu gwasanaeth Cymraeg. Twyllodrus iawn yw dadl gwrthwynebwyr Mesur Iaith cyflawn nad oes galw am wasanaethau Cymraeg. Saesneg yw’r norm yn yr holl wasanaethau hyn, a rhaid mynd allan o’ch ffordd i fynnu gwasanaeth Cymraeg. Bu’r gwr o’r Asiantaeth a driniodd y cais hwn yn helpgar iawn, ond mae’n gweithio tu fewn i drefn sy’n rhagfarnu’n erbyn y Gymraeg hyd yn oed yn ein broydd Cymreiciaf. Mae’n warthus fod Bwrdd yr Iaith wedi derbyn hyn yn rhan o Gynllun Iaith yr Asiantaeth ac mae’n dangos eto yr angen am Fesur Iaith cyflawn."

• Mae pob cais sgrifenedig am gais Cymraeg yn cael ei anfon yn gyntaf at swyddfa’r Asiantaeth yn Newcastle-on-tyne yng Ngogledd Lloegr cyn eu gyrru’n ol i Gaerdydd , gan olygu oedi pellach.

• Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a swyddog Maes Dyfed y Gymdeithas, Bethan Williams ar07981343313 neu gyda Ffred Ffransis ar 01559-384378