Gwahoddiad i Gyfarfod Agored, 7pm, 20/03/09, Boar's Head, Caerfyrddin Yn dilyn cyhoeddiad ar y Gorchymyn Iaith yn ddiweddar, mae'n fwriad gan Gymdeithas yr Iaith gynnal cyfarfodydd cyhoeddus ar hyd a lled Cymru.
Bydd y cyfarfodydd, a fydd yn cymryd ffurf fforwm, yn cael eu cynnal mewn pedwar lleoliad ar draws Cymru, gan gynnwys Caerfyrddin. Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal am 7pm ar nos Wener yr 20fed o Fawrth yn y Boar’s Head yng Nghaerfyrddin. Bydd cyfle i holi Adam Price, Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, a Hywel Griffiths o Gymdeithas yr Iaith.
Wrth i’r Gorchymyn gael ei drafod yn y Cynulliad hoffem ni i gymaint o bobl Cymru gael cyfle i leisio'u barn a chael bod yn rhan o’r broses drafod. Bydd adroddiad o'r cyfarfodydd yn cael eu danfon at Bwyllgor Deddfwriaethol sy'n craffu ar y Gorchymyn Iaith. Hoffem felly estyn gwahoddiad i chi fod yn bresennol.
Bydd cyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu ar gyfer y di-Gymraeg.
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules here