Gellir dweud ei bod hi’n ddiwrnod y llyfr bob dydd (a nos) yng ngwasg Gomer. Ond dydd Iau cyntaf mis Mawrth yw Diwrnod y Llyfr ac ar ddydd Iau 5ed eleni bu yna ddathlu mawr ar draws y wlad. Plant mewn gwisgoedd cymeriadau o lyfrau, awduron ac arlunwyr yn cynnal gweithdai mewn ysgolion, llyfrau newydd yn ymddangos a phawb yn ymhyfrydu mewn gwerth a dylanwad darllen. Eleni mae gwasg newydd sbon o’r Almaen wedi ei osod yn Llandysul ac ar Ddiwrnod y Llyfr cafodd plant Ysgol Gynradd Aberbanc fore wrth eu bodd yn darganfod sut mae holl dechnoleg ryfeddol y wasg yn gweithio.

Meddai Jonathan Lewis, rheolwr gyfarwyddwr y wasg " Mae’r peiriant newydd yn gyflymach na’r hen un ac yn argraffu pum dalen yr eiliad sef deunaw mil yr awr. Bydd modd i’r cwmni felly droi allan 30% yn fwy o waith."

Cyn ffarwelio, rhoddwyd llyfr yn anrheg i bob plentyn. Gyda deg teitl mewn cyfres i blant 9-11 oed newydd ymddangos, roedd yna groeso mawr i lyfrau Cyfres yr Hebog a theitlau newydd cyfres Tudur Budr. Braf oedd gweld y wên fawr ar wynebau’r plant, nifer fawr ohonyn nhw wedi gwisgo’n lliwgar ar gyfer yr achlysur.

Am Ddiwrnod y Llyfr i’w gofio – taith i ymweld â gwasg a chyfle prin iawn i fod ‘ar’ y wasg hefyd!

(Yn yr atodiad gwelir llun Jonathan Lewis, rheolwr-gyfarwyddwr Gwasg Gomer a phlant Ysgol Gynradd Aberbanc ar y wasg argraffu newydd)