O’r diwedd mai unig roces Blaenfelcefencart yn priodi!
Bydd Anwen Gwyneth yn derbyn y fodrwy – os cofir amdani –o law Geraint Williams yn Neuadd Gymunedol Maenclochog ar nos Sadwrn, Mawrth 7.
Rhoddir gwahoddiad agored i bawb i ddod i’r achlysur hapus, wel, os hapus, o gofio mai Cwmni Theatr Troedyrhiw sy’n perfformio Priodas Cwmffradach.
Os bydd y cynhyrchiad rhywbeth yn debyg i Steddfod Cwmffradach y llynedd, yna, ma’ un neu ddou o bethe’n siwr o fynd o’i le.
A fydd yr organ yn torri lawr? Fydd y boi fideo’n gwneud ei waith yn iawn? Fydd y gweinidog hyd yn oed yn gwybod pwy yw e?
Shwd stad fydd ar y priodfab ar ôl noson fowr? Beth am ei dad, John, a’i ofid ynghylch araith y neithior? Wedyn beth am y fenyw T_ Capel ‘na sy’n drychid yn rhyfedd o debyg i Ifan Tregaron?
Cewch ddod i fwynhau’r rhialtwch ar yr amod eich bod yn cynnig rhodd briodas o £5 (£2 50 i blant) wrth y drws.
Cofiwch wisgo’n addas a bod ‘na’n brydlon erbyn 7 30 p.m. Sdim byd yn wa’th na cadw’r briodferch i aros.
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules here