Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Capel Cenarth ar y 31 ain o Ionawr. Cafwyd cystadlu brwd bron ymhob dosbarth. Roedd y safon yn uchel ym marn y beirniaid a hyfryd oedd gweld nifer o blant o’r ysgol leol yn cystadlu.

Diolchwyd i’r brif athrawes ar athrawon am rhoi o’u hamser i’w dysgu.

Cadeirydd y nos oedd Peter Evans, Aberteifi a diolchwyd iddo am ei gyfraniad hael tuag at yr achos.

Yr arweinyddion oedd Rhiannon Lewis, Carwyn Crossman, a Christopher James.

Y Beirniad Cerdd oedd Gwyn Nicholas Llên: Y Prifardd Aled Jones Arlunio: Beth Davies Cyfeilydd: Gareth Wyn Thomas Bardd y Gadair oedd Y Parch Beti Wyn o Gaerfyrddin, ac roedd 16 wedi ymgeisio.

Cynhaliwyd y seremoni gan Christopher James. Y cyrchwyr oedd Llinos Jones a Delyth Cadman, cyfarchwyd gan Owen James a David Evans, a chanwyd y corn gwlad gan Iwan Davies, a chan y cadeirio gan Washington James. Canlyniadau yr Adran Gerdd 1 Unawd cyfyngedig i blant lleol Dan 6 Oed: 1.Jasmine Davies Ysgol Cenarth 2.Rhys Scourfield Ysgol Cenarth 3.Molly Wilkinson Ysgol Cenarth Dan 9 Oed: 1. Florence Gunn Wilson 2. Lucas Adams 3 Tiffany Edmonds Dan 12 Oed: 1. Maisie Gunn Wilson Ysgol Cenarth 2.Carys Schofield Ysgol Cenarth 4 Cystadlaeth Unawd 6-9 {Agored} 1.Sarah Louise Davies, Synod Inn 2.Leah Wyn, Maenclochog 3.Hannah Davies, Pencader 5 Unawd 9-12 oed {Agored} 1 Lowri Jones, Llanbed 2 Elen Jones, Llwyncelyn 3 Sara, Talyllychau 6 Unawd 12-15 oed 1 Blythe Ann, Maenclochog 2 Caryl Medi, Maenclochog 3 Cerian Mair Jones, Talgarreg 7 Unawd ar unrhyw Offeryn Cerdd Dan 16 1 Blythe Ann ,Maenclochog 2 Cerian Medi Lewis, Talgarreg 3 James Blundall, Crymych {Mwyaf addawol- rhannu rhwng y tri uchod }