Yng nghyfarfod Chwefror 11 o`r gymdeithas cawsom gyfle i gyfarfod ag un y mae rhai cannoedd o gantorion ar draws y byd eisoes yn ei hadnabod,sef Ms.Anna Williams, Llandysilio, a ddaeth atom i amlinellu patrwm ei gwaith yn y BBC fel trefnydd yr ornest gerddorol "BBC Canwr y Byd".A ninnau wedi cael eistedd yn gysurus o flaen ein teledu i wylio`r rhaglen hon sawl blwyddyn bellach ,fe`n cafwyd yn rhyfeddu wrth ddirnad yr holl waith sy`n ymestyn dros fisoedd cyn i ni roi ein teledu mlaen.

Yn rhan gyntaf ei sgwrs cyfeiriodd at y gwaith o ddidoli`r cystadleuwyr addawol o blith yr ugeiniau brwd o bedwar ban byd a garai gael cynnig.Dyna ddechrau trin cynhaeaf prysur yn y meysydd tramor,a chawsom ein argyhoeddi`n bur gynnar o arwyddocâd y gair `byd` yng nghyswllt y gystadleuaeth hon.

Mae`n agoshau at y Nadolig erbyn y bydd y rhestr derfynol o wyth ar hugain canwr wedi ei llunio.Yn awr mae`r gwaith cartref yn cynyddu a phurion peth mai Caerdydd yw`r cartref ,gan fod y nawdd sylweddol wedi ei addo ,a bod adnoddau hanfodol tair neuadd a`r cerddorfeydd ar y trothwy yn barod, yn ogystal â Chyngor Dinesig cefnogol.

O wrando cyflwyniad hynod raenus a diymhongar Anna Williams anodd ydoedd credu bod y fath gyfrifoldeb yn disgyn ar ei hysgwyddau a ninnau`n cael gwylio`r uchafbwynt yr ymdrech wrth bwyso botwm.Rhaid troi at eirfa`r beirniaid a gwerthfawrogi ein siaradwr am ddatganiad gloyw, a lleisiodd ein Llywydd ein llawenydd fel cymdeithas o dderbyn cyflwyniad cofiadwy arall eleni.

Wedi dathliadau Gwyl Ddewi bydd Yr Athro Margaret Haycock yn dod i siarad am `G_r y Gororau –Ffransis Payne` ar Fawrth 11.