Dafydd Iwan – John Gwilym Jones – Enid Morgan – Hywel Teifi Edwards Mi fydd dydd Gwyl Dewi yn ddiwrnod o ddathlu arbennig iawn yn Nyffryn Aeron eleni. Ar y dydd neilltuol hwn gwelir ffrwyth gyntaf gweithredu tawel ond go radical ar ran 19 o gapeli ac eglwysi – yn wir, holl gapeli ac eglwysi’r gymdogaeth – y cyfan oll o bob enwad yn dod ynghyd i greu prynhawn o ddathlu agored yn enw’n nawddsant, ei fywyd a’i ffydd.

Medd Cen Llwyd, gweinidog gyda’r Undodiaid ac un o symbylwyr y fenter: ‘Ry’ ni’n hyderus y bydd pobol o bob cefndir a ffydd, neu ddiffyg ffydd, yn ymateb yn gadarnhaol i’r digwyddiad cyffrous hwn yn Theatr Felin-fach, brynhawn dydd Gwˆyl Dewi. Rhaid i mi ddweud bod y sesiynau trafod ar gyfer dychmygu a llunio’r dathlu wedi bod yn llawn egni a brwdfrydedd ar waetha’r un neu ddau fater sy’n dal i’n gwahanu. Dyna pam wi’n edrych ymlaen yn eiddgar iawn at Wˆyl Dewi eleni. Wi’n cael y teimlad bod rhywbeth yn digwydd, bod rhywbeth yn symud o’r diwedd.’ Ategu hynny wna Eileen Davies, Ficer pedair o eglwysi Dyffryn Aeron. ‘Y’n ni wedi cwrdd fel criw o gynrychiolwyr yn Nhafarn y Vale of Aeron ac er mai sudd oren oedd y mwyafrif yn yfed ma’ dipyn go lew o asbri wedi codi i’n pennau wrth i ni gwestiynu’r hen ffiniau a chynllunio rhywbeth o’r newydd fel hyn. Pan ddechreuon ni sgwrsio, ym mis Tachwedd, doedd dim syniad ‘da’r un ohono ni beth fydde’r canlyniad. Y cwestiynu a’r trafod sydd wedi dod a’r cyfle hwn i’r amlwg. Mae’n gyffrous iawn.’ Mi fydd y dathlu ar y cyd yn cychwyn yn Theatr Felin-fach am 2.30 o’r gloch y prynhawn. Wedi paned bydd cyfle i bobol fynd a dod fel y mynnant gan ddewis a dethol rhwng sesiwn ar hanes Dewi Sant (Hywel Teifi Edwards), seiet barddonol am Dewi a Chymru (Lyn Ebenezer) neu Ddosbarth Beiblaidd ar Actau’r Apostolion, Pennod 10 (Enid Morgan). Bydd Cymanfa Ganu Fach a sesiynau penodol ar gyfer plant hefyd yn rhan o’r prynhawn.

Yna, wedi paned a phice-bach tua 4.00 o’r gloch, mi fydd gwahoddiad i bawb ymgynnull yn y theatr ei hunan ar gyfer y Dathliad Pawb Ynghyd. Dafydd Iwan, John Gwilym Jones ac Enid Morgan fydd â gofal y tri-chwarter awr hwn o gyd-ddathlu buchedd Dewi a’i dreftadaeth.

Darperir gwasanaeth Cyfieithu-ar-y-Pryd ar gyfer cymdogion di-Gymraeg.

HOLL GAPELI AC EGLWYSI DYFFRYN AERON YN DATHLU GWˆYL DEWI – GYDA DAFYDD IWAN, JOHN GWILYM JONES AC ENID MORGAN – THEATR FELIN-FACH – DYDD SUL, 1 MAWRTH – 2.30 – 5.00 o’r gloch.