Fe fydd hi’n Ddiwrnod y Llyfr ar 5 Mawrth, dydd o ddathlu llyfrau a’u hawduron a darlunwyr. Gyda dydd Iau cyntaf bob mis Mawrth wedi ennill ei le ar y calendar celfyddydol bellach, mae’n braf gweld nifer o lyfrau newydd yn cyrraedd y siopau. I’r plentyn bach a’i riant neu warchodwr, mae yna agosatrwydd arbennig mewn sesiwn stori, profiad gwerthfawr iawn -"Dechrau Da" yn ôl cynllun cenedlaethol ‘Bookstart’. Mae dau o lyfrau stori-a-llun newydd Gwasg Gomer wedi eu cymeradwyo i’r cynllun ‘Dechrau Da’ sef Beth am Fynd i Hwylio?If We Had a Sailboat a Nawr ‘te, Blant/Now then Children. Bydd ymwelwyr iechyd yn rhoi copi o’r llyfrau dwyieithog hyn i blant wrth iddyn nhw ymweld â’r feddygfa ar gyfer archwiliad, gan roi dechrau da i bob plentyn.

Ceri Wyn Jones o Aberteifi yw awdur Nawr ‘te, Blant/Now then Children, llyfr lliwgar iawn am anturiaethau plentyn bach yn y cylch meithrin. Ceir tipyn o chwarae gydag odl ac enwau plant yn y testun e.e ‘Botyma dy grys, Rhys….Bydd yn ofalus, Alys…’ Suzanne Carpenter o Gaeleon sydd wedi darlunio’r llyfr a bydd hi’n dathlu diwrnod y llyfr eleni drwy gynnal gweithdai yn Ysgol Gynradd Penboyr, Drefach Felindre.

Llyfr hwyliog iawn mewn mydr ac odl yw Beth am Fynd i Hwylio?If We Had a Sailboat. Gall lluniau a geiriau fynd â chi i unrhywle - mewn cwch i ben draw’r byd, mewn trên i’r jyngl, mewn roced i’r lleuad ac fe ddaw’r cyfan yn fyw i’r llygad drwy luniau gwych Adrian Reynolds o Gastell-nedd.

Dilyn stori un ebol bach wrth iddo dyfu’n geffyl hardd wneir yn y llyfr stori-a-llun Ceffyl a addaswyd i’r Gymraeg gan Siân Lewis o Lanilar. Mae’r lluniau trawiadol yn ein tywys drwy’r llyfr o’r adeg y caiff yr ebol ei eni, dysgu sefyll ar ei goesau main, curo’i garnau ac yn nes ymlaen rhuthro o gwmpas y cae. Dyma lyfr hyfryd am un o’n creaduriaid anwylaf.

Dathlwch Ddiwrnod y Llyfr gyda llyfr newydd!