Mae gwraig o Bencader yn teithio ar y ddegfed taith i Nicaragua i weld canlyniad Corwynt Felix Ar Chwefror 14 bydd y ddegfed ddirprwyaeth yn gadael Cymru i Nicaragua am bythefnos yng Nghanolbarth America.

Ar y daith hon, y ddegfed ers 1994, bydd 7 o bobl o Gymru. Mae'n cynnwys tri o Wynedd, un o'r Wyddgrug, un o Gaerdydd, un o Bontardawe ac un o Sir Gâr - Fioled Jones o Bencader..

Yn ystod yr ymweliad byddant yn teithio i Bilwi ar Arfordir y Caribi, a ddioddefodd Gorwynt Felix flwyddyn yn ôl. Lladdodd y corwynt gannoedd o bobl, a dinistriodd ddegau o filoedd o dai, yn cynnwys pentrefi cyfan.

"Un o'r rhesymau pam ein bod yn teithio i Biliw yw i weld a os unrhyw gefnogaeth a allwn wi roi, i helpu gyda'r adfywio tymor hir yn yr ardal," meddai Fioled. Ddeg mlynedd yn ôl, cododd yr Ymgyrch £25,000, ar ôl Corwynt Mitch. Talodd yr arian am symud pentref i dir mwy diogel.

"Roedd yr ardal yn un o'r tlotaf yn America Ladin cyn y corwynt. Mae hyd yn oed waeth yn awr," meddai Ben Gregory, Ysgrifennydd yr Ymgyrch.

Ym Managua bydd y ddirprwyaeth yn mynd i Ganolfan Los Quinchos, sy'n gweithio gyda phlant sy'n gweithio a byw yn La Chureca, y domen sbwriel fwyaf yn America Ladin. "Diolch i lawer o grwpiau, capeli a phobl ifanc, rydym wedi anfon £6,000 yn barod i gefnogi gwaith y Ganolfan, a byddwn yn mynd gyda £2,500 arall er mwyn eu gwaith," meddai Ben.

Bydd y grwp yn treulio rhan o'r daith yn aros ar fferm coffi masnach deg, ym Matagalpa yn y mynyddoedd yn Nicaragua. "Mae'r Ymgyrch wedi hyrwyddo coffi a sesame masnach deg o Nicaragua ers dros ddegawd,"

meddai Fioled. "Bydd ein hymweliad yn rhoi cyfle i weld sut mae masnach deg yn helpu i amddiffyn ffermwyr bach yn y sefyllfa economaidd ddychrynllydd bresennol."