Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cychwyn ar y broses o ofyn am yr hawl i ddeddfu ym maes y Gymraeg i gael ei drosglwyddo o San Steffan i’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae rhaglen flaengar Llywodraeth Cynulliad Cymru sef "Cymru'n Un" yn ymrwymo i gael mwy o hawl i ddeddfu i'r Cynulliad o safbwynt y Gymraeg trwy Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol, sef mecanwaith trosglwyddo'r hawl.

Y nod wedyn yw creu Mesur Cynulliad newydd i "gadarnhau statws swyddogol i'r Gymraeg a'r Saesneg, hawliau ieithyddol o safbwynt darparu gwasanaethau a sefydlu swydd Comisiynydd Iaith".

Wrth gyhoeddi'r Gorchymyn dywedodd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, fod yr egwyddor taw’r Cynulliad ddylai ddeddfu dros yr iaith yn hollbwysig. Dywedodd: "Mae’r Gymraeg yn eiddo i bawb yng Nghymru, prun a ydynt yn siarad yr iaith ai peidio. Mae’n rhan o’r dreftadaeth, yr hunaniaeth a’r cyfoeth rydym yn eu rhannu fel cenedl. Mae pobl ein cenedl yn falch o’n dwy iaith, sy’n elfennau hanfodol ac oesol o hanes, diwylliant a gwead cymdeithasol Cymru."

"Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio trosglwyddo pwerau ym maes y Gymraeg o San Steffan i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, fel ein bod mewn gwell sefyllfa i sicrhau ein nod o greu cenedl wirioneddol ddwyieithog."

"Mae deddfwriaeth yn arf pwysig wrth hyrwyddo a hwyluso parhad a thwf yr iaith. Ni all deddfwriaeth, ar ei phen ei hun, sicrhau dyfodol y Gymraeg, ond gall chwarae rôl bwysig wrth i ni geisio cyrraedd ein nôd." Ychwanegodd y Gweinidog: "Y Cynulliad yw’r lle priodol i ddeddfu a chraffu ar ddeddfwriaeth ar y Gymraeg. Cyflwynwyd tair deddf ar y Gymraeg yn ystod y ganrif ddiwethaf yn San Steffan. Mae’n annhebygol gan fod y Cynulliad mewn bodolaeth y bydd yn gwneud eto. Mae angen sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth yn gymwys at yr unfed ganrif ar hugain ac yn caniatáu i'r Cynulliad wneud penderfyniadau sy'n sicrhau datblygiad a pharhad yr iaith Gymraeg."

Ychwanegodd fod gan weinidogion Cymraeg swyddogaethau eang ar y Gymraeg, ond ychydig iawn o arfau deddfwriaethol oedd ar gael iddynt.

Tanlinellodd Mr Jones mai cychwyn proses oedd gosod y Gorchymyn ac mae mecanwaith yn unig yw GCD i drosglwyddo’r gallu i ddeddfu i’r Cynulliad. Byddai unrhyw Fesurau (Deddfau'r Cynulliad) yn deillio o gael sail bendith i'r Gorchymyn hwnnw.

Dim ond wedi ennill yr hawl i ddeddfu y gall Llywodraeth y Cynulliad drafod manylion sut oedd hybu a hyrwyddo’r iaith wrth drafod drafftio deddfwriaeth. Bydd digon o amser i drafod manylion sut mae hybu a hyrwyddo’r iaith, gan sicrhau nad yw hyn yn amharu ar hawliau siaradwyr Saesneg Bydd y GCD, os cytunir arno, hefyd yn rhoi pwˆer i’r Cynulliad, trwy fesur maes o law i sicrhau ryddid unigolion i siarad Cymraeg a’i gilydd -rhyddid sydd ar hyn o bryd ddim wedi ei diogelu yn statudol.