Cynhaliwyd oedfa gysygredig o dan nawdd Cyngor Eglwysi RhyddionAberteifi a’r Cylch yng Nghapel y Tabernacl ar nos Sul, Ionawr 18.

Roedd yr oedfa yng ngofal Dr Dafydd Tudur, Derwen-Gam, Aberaeron.

Cafwyd gair o weddi gan y llywydd, y chwaer Margaret Reed. Estynodd groeso cynnes i’r gynulleidfa. Braint a phleser oedd cyflwyno Dr Dafydd Tudur, brodor o Gaerdydd a Bangor. Enillodd Doethuriaeth ym Mangor, a hynny ar ymchwil ar fywyd Michael D Jones, Y Wladfa. Cymerodd ofal o gapel Llwyncelyn yn ddiweddar .

Hyfryd hefyd oedd croesawu nifer o ieuenctid yr ofalaeth i’r oedfa.

Cymerwyd rhan gan griw o rhai ifainc, a chafwyd cyfweliad gan nifer ohonynt.

Cyflwynwyd eu cyfraniadau trwy darllen a gweddi a datganiadau cerddorol yn ychwanegu at naws yr oedfa.

Cyflwynwyd y criw ifanc – criw’r Ffordd Ymlaen eu neges ar ffurf Newyddion 6 o’r gloch.

Clywsom am ei hamrywiol wethgareddau, o gario’r Groes o Gei Newydd i Faenygroes ar ddydd Gwener y Groglith, gwasanaethu yng nghapeli’r cylch pan fo angen, helpu rhai mewn angen, cynnal gwasanaeth Plygain yn Nanternis, danfon dillad a nwyddau i blant y trydydd byd ac yn y blaen.

Cafwyd myfyrdod yn yr ail rhan o’r oedfa gan Dr Dafydd Tudur.

Seiliodd ei sylw ar Bennod 14 o Efengyl Mathew, yn gyntaf ar y wyrth a gyflawnodd yr Iesu o fwydo’r dorf gyda 5 torth a 2 bysgodyn, a’r dorf yn ymwybodol fod rhywbeth arbennig am yr Iesu.

Aeth y disgyblion i bysgota. Cododd storm ar y mor. Cawn ninnau bygythiad gan stormydd modern, difaterwch, materoliaeth, nifer o aelodau yn gostwng. Tra roedd y pysgotwr ynghanol y storm, gwelsant rhywun yn cerdded tuag atynt.

Deallasant mae’r Iesu oedd. "Myfi yw, peidiwch ag ofni", ynghanol ansicrwydd bywyd yr un yw’r cymhelliad – "codwch eich calon".

Er i Pedr geisio cerdded ar y mor a phetruso a dechrau suddo ymateb yr Iesu oedd "tyrd", gostegodd y storm.

Chwilio ddylasem am Ei arweiniad yn hytrach na chael ein cyfyngu gan ein hofnau. Bydd Iesu yn ein tywys drwy unrhyw storm.

Cyhoeddwyd y fendith gan Dr Dafydd Tudur a bendithiodd y casgliad o £133.00 at waith Plant Mewn Angen.