Ar Dachwedd y 5ed croesawodd y Llywydd dwy nyrs Macmillan i’n plith a oedd wedi dod i dderbyn siec o £360 a gasglwyd gan gangen yn ystod bore coffi yn y neuadd.

Gwraig wadd y noson oedd Mrs Lilwen Thomas o San Cler sy’n arbenigo mewn gosod blodau ac wedi cystadlu mewn nifer o sioeau bach a mawr. Roedd yn braf ei gwylio yn trin a thrafod y blodau ac fe dangosodd i ni sut i drefnu’r blodau mewn amryw ffyrdd.

Cyn diweddu’r noson, fe greuodd arddangosfa i gylfeu Noson Tan Gwyllt gan ddefnyddio blodau coch, melyn ac oren, lliwiau prydferth ar gyfer y noson arbennig hon.

Gwnaeth Mrs Rita Davies ddiolch i Lilwen am eu harddangosfa hyfryd o flodau ac am eu rhoi fel gwobrau raffl. Peggy Jones a Linda Bowen oedd yng ngofal y te ac fe ennillwyd y raffl fisol gan Jean Jones.

Daeth aelodau ynghyd i’r ganolfan yng Nghapel Iwan ar Dachwedd 26ain o dan llywyddiaeth Mrs Mair Evans. Croesawodd Mrs Helen Davies o Crymych, merch talentog ianw ym myd addurno caennau i bob achlysur.

Fe ddangosodd i ni sut i addurno cacen a’r gyfer y Nadolig a braf oedd gweld noson gwahanol yn llawn syniadau da.

I ddiweddu, roedd hi wedi dod a tryffles bach nadoligaidd i ni gael blasu, ac roeddent yn hyfryd. Diolchwyd i Helen gan Rhian, am noson hwylus a diddorol.

Roedd y te yng ngofal Marion Davies a Gwyneth Phillips.

Enillydd y raffl oedd Pat Thomas a oedd yn rhoddedig gan Jean Jones.

Ar nos Sadwrn Rhagfyr 6ed, cynhaliwyd ein cinio Nadolig yn nhafarn yr Holly Brook yn Bronwydd.

Croesawodd ein llywydd Mrs Mair Evans yr aelodau a’r dynion i’r cinio, croesawodd hefyd win gwr gwadd sef Mr Deryc Rees o Llangynnwr, Caerfyrddin. Cafwyd pryd o fwyd blasus ac roedd yr ystafell wedi cael ei haddurno yn brydferth iawn i rhoi naws y Nadolig.

Ar ol cinio bu Deryc yn ein ddiddani gyda storiau doniol iawn a chafwyd hwyl a sbri yn gwrando arno.

Diolchwd i Deryc gan yr is-lywydd sef Mrs Gwyneth Phillips ac am y pryd o fwyd blasus a gafwyd.