Mae Cyngor Sir Ceredigion yn annog pawb yng Ngheredigion i'w helpu i sicrhau diogelwch a lles plant sy'n derbyn gofal gan rywun sydd heb fod yn berthynas uniongyrchol iddynt - diffinnir perthynas uniongyrchol fel llysriant, nain, taid, brawd, chwaer, ewythr neu fodryb (boed drwy waed, hanner gwaed neu drwy briodas). Mae'r galw i weithredu yn rhan o ymgyrch genedlaethol o'r enw "Plentyn Rhywun Arall" sy'n cael ei rhedeg gan Gymdeithas Mabwysiadu a Maethu Prydain, ac mae'n ceisio codi ymwybyddiaeth o faethu preifat.

Mae maethu preifat yn disgrifio trefniant pan fydd rhywun sydd heb fod yn berthynas agos yn gofalu am blentyn rhywun arall am gyfnod estynedig (28 diwrnod neu fwy). Er bod hyn yn drefniant preifat, yn ôl y gyfraith mae'n rhaid i'r rhiant a'r gofalwr hysbysu'r awdurdod lleol ynghylch ble y bydd y plentyn yn byw er mwyn i'r awdurdod lleol sicrhau bod y plentyn yn cael y gofal iawn. ‘Does neb yn gwybod faint o blant sy'n cael eu maethu'n breifat yn y Deyrnas Unedig ond, yn 2001, ‘amcangyfrif Adran Iechyd y llywodraeth ganolog oedd y gallai fod cynifer â 10,000 yng Nghymru a Lloegr. Ofnir y gallai rhai o'r plant 'anweledig' hyn fod mewn perygl o gael eu cam-drin neu fod yn ddioddefwyr masnachu mewn pobl.

Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2008 ychydig iawn o hysbysiadau o drefniadau maethu preifat oedd yng Ngheredigion. Fodd bynnag, mae arbenigwyr yn credu y gallai fod llawer mwy. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn yn arbennig i bobl sy'n gweithio gyda phlant i fod yn ymwybodol o faethu preifat a rhoi gwybod i’r Cyngor Sir ar unwaith os ydynt yn amau bod trefniant o'r fath yn bodoli. Mae gan y cyhoedd ei ran i'w chwarae hefyd.

Dywedodd Buddug Ward, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Teuluoedd a Phlant o Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ceredigion : "Mae gan bawb rôl i'w chwarae o ran cadw ein plant yn ddiogel - pa un ai ydych yn athro, yn weithiwr ieuenctid, yn gymydog neu'n sgwrsio â rhieni eraill wrth gât yr ysgol. Os ydych yn clywed am blentyn sy'n cael ei faethu'n breifat rhowch wybod i ni ar unwaith er mwyn i ni sicrhau bod y plentyn yn ddiogel."