Aeth criwohonom i Dafarn Penrhiwllan ar nos Fawrth 2 o Rhagfyr i ddathlu ein cinio Nadolig Blynyddol. Croesawyd i gyd gan ein llywydd Mrs Olive Jones.

Wedi i Marian Evans gofyn gras aeth ymlaeni fwynhau’r wledd oedd wedi ei baratoi ar ein cyfer.

Cyflwynodd Olive ein gwr gwadd sef Mr Arwel Thomas o Brewydd. Prifathro wrth ei alwedigaeth wedi ymddeol ar ol pum mlynedd ar hugain yn ysgol Maesyryrfa. Llawer o ddiddordebau ganddo one yn diddori mewn hanesion, cymeriadau lleol ac aelodau diddorol a dyna gawsau ganddo.

Diolchodd Yvonne yn gynnes iawn iddo am y noson arbennig o hwylus cyn tynnu’r raffl dymunodd Olive Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

Ennilwyr y raffl oedd: Sarah Evans, Nansi Jones, Mair Jones, Glenys Evans, Gwen Walters a Valmai Owen