Cafwyd y croeso arferol gan y llywydd, Elfair James yng nghyfarfod cyntaf y flwyddyn, yn festri Capel Mair ar nos Fercher y 7fed o Ionawr.

Dymunodd Blwyddyn Newydd Dda i bawb. Derbyniwyd nifer o ymddiheuriadau a chydymdeimlwyd a Mrs Linda George ar golli gwr, Mrs Marian Jenkins ar golli brawd yng nghyfraith ac hefyd y llywydd ar farwolaeth ewythr. Dymunwyd adferiad buan i Marian Jenkins ac fe’i llongyfarchwyd ar enedigaeth wyr.

Aed ymlaen i wneud y gwaith busnes angenrheidiol.

Estynnwyd croeso cynnes i aelodau o Ferched y Wawr Aberporth i’n plith. Gwestai’r noson oedd y Cyng. John Adams Lewis.

Wrth gyflwyno’r siaradwr gwadd dywedodd y llywydd ei fid yn gynghoryd Sirol, a’i fod ef a’i briod Morina, sydd yn aelod o’r gangen, yn weithgar iawn yng ngwahanol sefydliadau’r dref. Athro yn dysgu Crefftau yn Ysgol Uwchradd Aberteifi oedd Mr Lewis cyn ei ymddeoliad. Mae gan pob un ohonom rhyw ddawn arbennig, boed ym myd cyfrifiaduron, trefnu blodau, neu coginio efallai, one nid pawb sydd ar ddawn i adeiladu awyrennau.

Noson felli gafwyd, trwy gyfrwng sleidiau, gan y gwr gwadd. Esboniodd sut wnaeth brynu’r ‘Jabaroo Kit’ tra roedd ar ymweliad a’i fab yn Awstralia.

Wrth iddo arddangos ei waith yn adeiladu’r awyren gyntaf synnwyd pawb at y ddawn arbennig oedd ganddo fel peiriannydd. Adeiladwyd yr ail awyren yn 2004 mewn ffatri yn Prag, ac mae’r drydedd bron cael ei gorffen.

Ar ol y gwledda, diolchodd June Lloyd Jones, llywydd gangen Aberporth am gwahoddiad i cangen Cylch Teifi, ac am gael ymuno mewn noson hollol wahanol ynghyd a bod yn addysgiadol.

Disgwylir y Dysgwyr i ymweld a’r gangen ym mis Chwefror.