I ddechrau gweithgareddau codi arian 2009 cynhaliwyd Bore Coffi yn Festri’r Tabernacl ar fore Sadwrn 10 Ionawr a gwnaed elw o £350 at y gronfa a diolch hefyd i Glwb Gwawr Glannau Teifi am y rhodd o £75 a dderbyniwyd ganddynt.

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y flwyddyn o’r Pwyllgor ar nos Fercher 22 Ionawr pryd croesawyd pedwar aelod newydd atom a thrafodwyd nifer o syniadau am weithgareddau codi arian ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod a cheir mwy o wybodaeth amdanynt yn ystod yr wythnos nesaf.

Mae Soroptomyddion Aberteifi yn bwriadu trefnu digwyddiad gwahanol er mwyn codi arian i’r Urdd sef cynnal ‘Biblethon’ lle bydd cyfle i noddi pobl i ddarllen y Beibl o glawr i glawr. Mae hyn yn enghraifft wych o gael cymdeithasau a mudiadau i gefnogi’r apêl drwy drefnu gweithgareddau eu hunain a chyflwyno’r elw i’r Pwyllgor Apêl.

Bydd y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor yn Festri Bethania ar Nos Lun, 16 Chwefror am 7.30 o’r gloch ac mae croeso cynnes i bawb ddod ynghyd.