O`r aelodau a ddaeth i gyfarfod Ionawr o`r Cymrodorion, prin na fydd neb ohonynt o hyn allan yn gallu teithio trwy Corris i Ddolgellau heb eu cyffroi o`r newydd gan gyflwyniad y Bonwr Rhys Gwynn ar "Rhyfeddodau Bro Cader Idris".

Mae`n fro helaeth ond yn un yr oedd y siaradwr yn gyfarwydd iawn â hi gan iddo dreulio sawl blwyddyn yn filfeddyg yn gweithio o Ddolgellau, cyn newid cyfeiriad a dod yn un o wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri a chael plwy dan ei ofal yn ymestyn o Lanuwchlyn i Fachynlleth ,gan gynnwys Cader Idris.

Trwy gyfrwng cyfres o`i sleidaiu dadlenodd yr amryw ffactorau sy`n gwau i wneud y brodwaith bryniau sy`n nodweddu`r darn hwn o`n gwlad. Cawsom ganddo gyfeiriad cynnar at ddaeareg y broydd - y creigiau hynafol gyda`u holion o Oes yr Ia ond sydd erbyn heddiw wedi dod yn gartref i amrywiaeth rhyfeddol o fwsogydd a blodau ac yn aelwyd i adar lliwgar a mân anifeiliad fel y pathew a`r bele sy`n mwynhau`r unigeddau.

Mae dynion o`r canrifoedd cynnar hyd heddiw wedi gwneud bywoliaeth o`r llechweddau a`r dyffrynnoedd lluosog fel y tystia cytiau`r Gwyddelod a chorlannau`r bugeiliaid. Law yn llaw â`r olion fe erys chwedloniaeth a thraddodiadau bro, a thoreth o enwau hyfryd i ddynodi craig a thyddyn ac adfail. Cawsom gip ar rai o`r dyfroedd hael sy`n tasgu o`r llechweddau - dyfroedd a barodd yr angen am y saer maen cynnar i lunio pontydd i hwyluso trafnidiaeth y chwarelwr ac am y crefftwr i gyfeirio d_r at waith y pandy fel yn ardal Dolgellau.

Mae i fryniau`r fro eu swyn arbennig i filoedd sydd yn dod i gerdded a mwynhau`r golygfeydd, a`r mynych gerdded yn cynnig her i`r warden a`i gydweithwyr i geisio arfer crefft y cyndeidiau wrth gryfhau ambell lwybr sy`n erydu dan draed y cerddwyr. Efallai mai prin yw`r rhai sy`n gwerthfawrogi holl gyfoeth y rhyfeddodau wrth dramwyo`n hamddenol ,ond anodd fai troi`n ôl heb synhwyro harddwch aber y Fawddach neu`r rhin arbennig a berthyn i Ddyffryn Dysynni. Camp Rhys Gwynn oedd cyfleu i aelodau`r Cymrodorion gyfoeth y dreftadaeth yn ogystal â hud y tirwedd .

Gyda gloywder o Gymraeg a detholiad hael o`i luniau cawsom gwmni un sy`n ymfalchio yn y rhyfeddodau ac yn genhadwr sy`n ein argyhoeddi o`n braint o adnabod bro Cader Idris.

Yn y cyfarfod ar Chwefror 11 bydd Ms Anna Williams,Llandysilio,yn siarad ar y testun "BBC Canwr y Byd,Caerdydd"