Bydd cyfieithiad Cymraeg o‚r ddrama enwog, The Weir, i‚w weld yn Theatr Mwldan ar y 3ydd a‚r 4ydd o Chwefror wrth fynd ar daith o amgylch Cymru, gan ddilyn llwyddiant y cynhyrchiad yn Sherman fel rhan o Eisteddfod Genedlaethol 2008.

Mae Yr Argae yn gyfieithiad Cymraeg gan y diweddar Wil Sam, un o ddramodwyr mwyaf dylanwadol Cymru, fu farw yn 2007. Cyfieithiad o The Weir, Conor McPherson, drama sydd wedi ei gwobrwyo nifer o weithiau, yw Yr Argae, a chafwyd derbyniad gwresog iawn iddi pan gafodd ei chyflwyno am y tro cyntaf yn Sherman fel rhan o Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2008.

Stori arswyd yw Yr Argae wedi‚i lleoli mewn tafarn fechan yn Iwerddon ble, yn ôl eu harfer, mae tri hen lanc lleol yn cwrdd am beint a sgwrs. Ond pan mae Finbar Mack yn glanio nôl yn y dref, yng nghwmni menyw ifanc, sy‚n ddieithr i‚r ardal, maent oll yn eu tro‚n datgelu rhywbeth am eu gorffennol, ac mae‚r drafodaeth ychydig yn fwy iasol na‚r disgwyl.

Cynhyrchir Yr Argae gan Sherman Cymru, mewn cydweithrediad â‚r cwmni theatr newydd Torri Gair. Cafodd Sherman Cymru lwyddiant mawr yn ddiweddar gyda Deep Cut, cynhyrchiad a enillodd nifer o wobrau. Cyfarwyddwr Yr Argae yw sylfaenydd Torri Gair, ac un o Gyfarwyddwyr Cyswllt Sherman Cymru, Arwel Gruffydd. Medd Arwel: Yn dilyn ei llwyddiant yn ystod wythnos yr Eisteddfod, mae Yr Argae ar daith, ac mae closio at y tân i wrando straeon ysbryd fel pe‚n apelio fwy rhywsut yn nhywyllwch y gaeaf nac oedd yng ngwres mis Awst! A braint ydi cofio wrth wneud gyfraniad hynod Cymro mor unigryw. Dyma‚r cyntaf o nifer o gynyrchiadau eleni sy‚n coffau un o‚n dramodwyr mwyaf.

Mae drama Conor McPherson - a enillodd iddo Gwobr yr Evening Standard Llundain am y Dramodydd Mwyaf Addawol ym 1997, a Gwobr Olivier am y Ddrama Newydd Orau ym 1999 - yn un o glasuron y theatr gyfoes. Mae eisoes wedi‚i chyfieithu i nifer o ieithoedd, ac wedi‚i pherfformio‚n gyson ledled y byd ers y cynhyrchiad cyntaf yn niwedd y nawdegau yn Theatr y Royal Court Llundain, ac yna yn y West End.

Bydd Yr Argae i‚w gweld yn Theatr Mwldan o ar y 3ydd a‚r 4ydd o Chwefror. Pris y tocymmau yw £10 (£9) a gellir eu harchebu o Swyddfa Docynnau Theatr Mwldan ar 01239 621200.

Diwedd Am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â Jenny Boyatt, Swyddog Marchnata a‚r Cyfryngau Sherman Cymru ar 029 2064 6901 neu jenny.boyatt@shermancymru.co.uk