Yn y Gymru Gymraeg roedd T. Llew Jones yn eiddo cyhoeddus. Ac mae’r golled yr wythnos hon, o’r herwydd, yn golled genedlaethol. Ond, ac ar gais uniongyrchol y Golygydd, teynged bersonol sydd gen i; teyrnged un a oedd, fel sawl un arall, wrth gwrs, â’i ddyled yn enfawr i’r bardd a’r llenor o Bontgarreg.

Fel crwt, roeddwn wrth fy modd gyda straeon antur a dirgelwch am fôr ladron a lladron penffordd ac ati. Ac yn yr iaith Saesneg, ar y silffoedd gartre, yn yr ysgol ac yn y llyfrgell, roedd dewis trwchus a hudolus o deitlau i mi bori ynddynt os oeddwn am hwylio’r cefnfor, neu garlamu’r ffordd fawr, neu chwarae ditectif yn y dychymyg.

Ond yn Gymraeg? Dim diolch! Pan ddôi’n fater o ddarllen, llyfrau eilradd oedd y rhai Cymraeg, yn llawn cymeriadau beiblaidd a chwn defaid, hyd y gwelwn i!

Ond wedyn, bu i mi ddarganfod tri o eiriau mwyaf cynhyrfus fy mhlentyndod: T. Llew Jones! Ac mi ddarllenais, a darllenais, a darllenais.

A lle bu byd antur a chyffro’r dychymyg yn fyd uniaith Saesneg gynt, yn sydyn dechreuais chwarae a meddwl a dychmygu yn Gymraeg, gyda geiriau T. Llew’n sibrydion ar fy anadl, a’i gymeriadau’n bresenoldeb byw o’m cwmpas. Mor fyw oedd rhai o’r rhain yn wir nes i mi ddechrau ysgrifennu nofel (a minnau’n naw oed hen ofnadwy) yn seiliedig ar Harri Morgan a Ned, dau o gymeriadau Trysor y Môrladron!

Roedd hyd yn oed gwerslyfrau T. Llew yn ddifyr. Rwy’n un o’r genhedlaeth honno a weithiodd ei ffordd yn gydwybodol drwy’r gyfres Llyfrau Darllen Newydd yn yr ysgol gynradd. Nid at ddiben gwersi ffurfiol yn unig oedd y rhain: roeddent yn destunau darllen hamdden ohonynt eu hunain, yn llawn cerddi a straeon a phosau a ffeithiau a ddysgai gymaint mwy na dim ond ‘iaith’ i ni.

Ond mae arna’i un ddyled fawr arall i Llew. Pan oeddwn yn ddisgybl chweched-dosbarth yn Ysgol Uwchradd Aberteifi, dilynais gyfres o wersi ar y gynghanedd a gynhelid gan y Prifardd bob nos Iau yn y Coleg Addysg Bellach yn y dre. Ond rwy’n ofni na fûm (oherwydd galwadau pwysicach ar amser crwt 17 oed ar y pryd!) yn aelod ffyddlon o’r dosbarth, neu, chwedl Llew ei hun, "Rhyw ysbeidiol droi mewn i’m gwersi i a wnâi Ceri Wyn!" Ond, diolch i’r athro â’i esbonio eglur (a digyfaddawd) a’i anogaeth garedig, bûm yno’n ddigon hir i gael gafael ar hanfodion sylfaenol y grefft.

Ac i weithio ambell englyn. Ac i ddod i adnabod ambell aelod arall o’r dosbarth, cyd-beginners fel Emyr Oernant ac Arwel Jones.

Mwy na hynny, rai blynyddoedd wedi hyn, cawn groeso brwd ar aelwyd Llew pan ddown i ddangos rhyw gerdd neu’i gilydd iddo, a gofyn am ei farn a’i gyngor ynglyn â shwt i’w gwella ac yn y blaen. Roedd y nosweithiau hynny yn stydi Dôl-nant yn ddosbarthiadau-meistr gyda’r mwyaf gwerthfawr a chartrefol.

Roeddent yn bleser pur hefyd, oherwydd byddai Llew wrth ei fodd yn adrodd hanesion hwyliog am ei yrfa eisteddfodol yntau, gan ddwyn i gof ymrysonau beirdd a chyfeillach bois y Cilie a’u tebyg.

Ac rwy’n cofio’n glir ei ddisgrifiad dramatig o’r noson honno yng nghegin ffarm y Cilie yng ngwanwyn 1966 pan ddarllenodd Dic Jones Cynhaeaf ar ei hyd i Llew ac Alun Jones, cyn i ddarpar-brifardd yr Hendre anfon yr awdl honno i gystadleuaeth y Gadair yn Aberafan.

Byddai wedi bod yn dda gen i wedi gallu gweithio englyn neu gywydd i goffau Llew yn y rhifyn hwn o’r Teifi-seid.

Ond fe ddaw’r gerdd honno eto, mi wn. A phan ddaw hi, mi fydd hi’n deyrnged fwy teilwng o’i gwrthych na’r un frysiog hon, rwy’n gobeithio. Wedi’r cwbwl, wrth weithio’r gerdd, mi fydda’i’n gallu rhoi ar waith yr union arfau a drosglwyddwyd i mi gan y meistr ei hun.

Ac yn y pendraw, pa deyrnged fwy diffuant na hynny? Gan Ceri Wyn Jones