Cynhaliwyd sioe Nadolig y plant nos Sul Rhagfyr 21ain.,pan welwyd y festri yn orlawn o rieni, aelodau a ffrindiau wedi dod i gefnogi’r oedfa. Thema’r sioe eleni oedd "Gwlad y Cardiau Nadolig", a hyfforddwyd y plant gan Catrin Davies, Gill Davies a Wendy Lewis. Diolch i Rhian Bowen am ddod i’r adwy a chynorthwyo gyda gwisgo’r plant lleiaf.

Cymerwyd rhan fel arfer, gan nifer o ieuenctid yr Eglwys, - diolch iddynt am eu cyfraniadau gwerthfawr. Llefarwyr y cyflwyniad oedd Ffion Harries; Megan Williams; Lowri Davies; Tomos George; Gerallt Dafydd; Catrin Davies; Gwen Vaughan a Ben Williams. Aelodau’r "teulu" a oedd fel dolen gyswllt i’r perfformiad, oedd Rhys Lewis-Jones, Lois Davies a Teleri Vaughan.

Cafwyd unawdau pwrpasol yn ystod y sioe gan Martha a Hannah, a swynwyd pawb gan barti’r merched h_n yn canu carolau i gyfeiliant gitâr, y Parch Roger Morgan.

Yr angylion oedd Hannah, Marged, Mari, Beca a Martha, ac yn addurno’r goeden Nadolig bu, Rhys James, Elis James, Osian, Dewi a Meiddyn. Ffermwyr fferm yr Hafod oedd Rhodri, Dafydd, Elis Williams, a Steffan, a bu Carys, Mari, Beca, Marged, wrthi yn adrodd holl helbul siopa’r Nadolig !!

I gloi’r sioe, ymddangosodd pawb ar y llwyfan yn cydganu’r carolau poblogaidd, "Bethlehem", "Brysiwn lawr y grisiau", a "Hen Hen Stori". Cafwyd gair pwrpasol, gan y gweinidog, y Parch Roger Morgan, ac yntau hefyd a ddiolchodd i bawb am weithio tuag at lwyddiant y sioe - yn enwedig y plant a oedd i gyd, yn sêr y noson. Diweddwyd yr oedfa drwy ganu carol gynulleidfaol.

Yn dilyn yr oedfa fendithiol a hwylus, cafwyd tê parti, gemau amrywiol ac ymweliad gan Siôn Corn.