Mae cynlluniau newydd Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi yn golygu na fydd y cyhoedd yn derbyn gwysion llysoedd yn ddwyieithog yn y dyfodol. Caniatawyd cyflwyno gwysion yn y Gymraeg o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1967, ond yn awr bydd y gwasanaeth yn dod i ben, ac yn Saesneg yn unig y byddant yn cael eu cyflwyno. Nododd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ei fod yn anhapus iawn â’r cam yn ôl hwn.

Cynhaliodd y Bwrdd Ymchwiliad dan Adran 17 Deddf yr Iaith Gymraeg, a dod i’r casgliad fod Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi (GLlEM), o ddiddymu’r gwasanaeth, yn torri ei Gynllun Iaith.

Mae GLlEM wedi dechrau defnyddio system gyfrifiadurol newydd, LIBRA, ac un o swyddogaethau’r system yw cynhyrchu gwysion i’w gyrru at aelodau o’r cyhoedd i ymddangos gerbron llys. Yn ôl GLlEM, ni all y system ymdopi â chynhyrchu gwysion dwyieithog ar hyn o bryd.

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd, Meri Huws: "Mae hwn yn gam difrifol yn ôl, a gall effeithio ar yr holl broses o weinyddu cyfiawnder, er enghraifft y gwrandawiad llys ei hun. Gall derbyn gwˆys uniaith Saesneg arwain at anawsterau mawr o safbwynt gallu unigolion i gyfathrebu’n hyderus yn ystod y broses, ac y gall hynny yn ei dro effeithio ar ddilysrwydd canlyniad y broses.

"Rwy’n siomedig iawn o weld y tro pedol yma mewn darpariaeth Gymraeg sydd wedi bod gyda ni ers deugain mlynedd a mwy. Dylai technoleg hwyluso’r ddarpariaeth Gymraeg, nid ei thanseilio a’i diddymu fel hyn. Mae’n ergyd i statws yr iaith Gymraeg o fewn y gyfundrefn gyfiawnder troseddol yng Nghymru, a byddwn yn rhoi pwysau ar y Gwasanaeth Llysoedd a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Whitehall i ddatrys y broblem."