Lansio print er budd Eisteddfod yr Urdd 2010 Mae gweithgareddau codi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru 2010 yng Ngheredigion yn mynd o nerth i nerth – yn enwedig yn ardal Ceulanamaesmawr wrth i brint arbennig o’r ardal gael ei lansio.

Penderfynodd y pwyllgor apêl lleol gomisiynu’r artist Ruth Jên Evans i ddylunio llun i gynrychioli pentref Tal-y-bont ac mae nifer cyfyngedig o gopïau bellach ar werth ac yn gwerthu’n gyflym.

Er mwyn cael ysbrydoliaeth ar gyfer y darlun, fe aeth Ruth o amgylch y pentref i dynnu lluniau ac i gasglu syniadau a delweddau. Mae’r nodweddion hyn wedi cael eu cynnwys mewn darlun lliwgar sy’n nodweddiadol o arddull unigryw Ruth Jên.

Cant o gopïau yn unig o’r print sydd wedi cael eu paratoi, gyda chopi rhif 50 yn cael ei gyflwyno i Ysgol Gynradd Gymunedol Tal-y-bont a rhif 100 yn cael ei werthu mewn ocsiwn arbennig ar Ddydd G_yl Dewi 2009.

Meddai Cadeirydd Pwyllgor Apêl Ceulanamaesmawr, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn: "Roedd y pwyllgor apêl lleol yn awyddus iawn i gynhyrchu print fel rhan o’n gweithgareddau i godi arian yn lleol ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Ceredigion yn 2010. Rydym felly’n hynod o falch bod un o drigolion pentref Tal-y-bont, yr artist Ruth Jên, wedi bodloni i dderbyn comisiwn i wneud darlun o’r pentref.

"Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd y darlun yn apelio nid yn unig at drigolion presennol Tal-y-bont, ond hefyd i’r rheiny sydd bellach wedi ymgartrefu mewn ardal arall. Fodd bynnag, dim ond nifer cyfyngedig o brintiau sydd ar gael felly rwy’n argymell i bawb archebu copi cyn ei bod yn rhy hwyr!"

Mae copïau wedi eu rhifo o’r print ar gael am £35, neu £55 os ydyw wedi ei fframio. Gall unrhywun sydd am archebu copi o’r llun wneud hynny drwy gysylltu gydag ysgrifenyddes y pwyllgor apêl, Mrs Jennifer Evans (01970 832 367).