Yn 2010, Ceredigion fydd sir nawdd Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, a bydd merch o Geredigion yn ein cynrychioli. Mewn noson yng ngwesty'r Marine yn Aberystwyth yn ddiweddar, dewiswyd Teleri Jenkins Davies, merch fferm Pantyrodyn, Brongest yn Llys Genhades y sioe. A hithau newydd briodi ac yn berchen busnes poblogaidd tu hwnt yng Nghastellnewydd Emlyn - Deli T_ Croeso a Siop Hamperi a Chigyddion Teulu Jenkins, mae ei bywyd yn brysur iawn. Ond i'r rheini ohonoch nad oedd yn gwybod, bu Teleri a'i mam Brenda yn rhedeg caffi poblogaidd yn y dref am wyth mlynedd a hanner - Caffi T_ Croeso. Yna pymtheg mis yn ôl, gadawyd y caffi a dechrau ar eu menter newydd ar y stryd fawr. Menter sy'n gweld Teleri yn cynhyrchu hamperi a gwerthu bwydydd lleol o safon. Mae eu hystod o fwydydd cartref hefyd yn hynod boblogaidd - o beis i gacennau caws amrywiol, cacennau bach a quiches blasus. "Pan wnaethon nhw ddweud wrtha'i mai fi oedd wedi cael fy newis fel Llys Genhades, teimlais yn gyffrous, yn emosiynol ac yn falch. Roedd deg merch arall o'r Sir yn cystadlu hefyd a wnes i erioed meddwl mai fi fyddai'n cael yr anrhydedd,' dywedodd Teleri yn wen o glust i glust." Roedd yn rhaid i Teleri lenwi ffurflen gais a chael cyfweliad o flaen tri beirniad, yna aros ychydig o amser cyn cael gwybod os mai hi oedd wedi ennill. Nod y gystadleuaeth yw dod o hyd i'r person mwyaf addas ar gyfer cynrychioli'r sir nawdd. Roedd y cystadleuwyr yn gorfod bod rhwng 18 a 35 mlwydd oed. Mae Teleri, sy'n 28 oed, yn wyneb cyfarwydd iawn o amgylch y sioeau - yn lleol ac yn genedlaethol. Mae hefyd wedi chware rôl bwysig iawn ym myd y Ffermwr Ifanc. Fel aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Bryngwyn am ddeunaw mlynedd, Teleri oedd Aelod Hyn y Flwyddyn yn 2006 / 2007 ac yn Frenhines Ceredigion yn 2007 / 2008. Fe wnaeth hi hefyd ennill gwobr Cynllun Menter o bron i fil o bunnoedd gyda'r Ffermwyr Ifanc am ddechrau ei busnes hamperi. Ond nid ar ddiwrnod y sioe yn unig fydd Teleri yn Llys Genhades. O hyn tan ddiwrnod y sioe, fe fydd ganddi, fel dirprwy Llys Genhades, ddyletswyddau pwysig i'w cyflawni er mwyn sicrhau bod y sioe yn derbyn nawdd. "Mae deunaw mis prysur iawn 'da fi o hyn ymlaen. Byddai'n rhoi meddwl ar waith gan farchnata'r sioe, codi arian, meddwl am ffyrdd o godi arian a cheisio meddwl am ffyrdd o ddenu cynulleidfa newydd i'r sioe - mae'n mynd i fod yn her a hanner ond yn her a hanner pleserus iawn gobeithio." Yn ferch i Denley (Is gadeirydd Pwyllgor Ymgynghori Ceredigion gyda'r Sioe Frenhinol yn 2010) a Brenda, mae'r Sioe wedi chwarae rôl bwysig iawn ym mywyd y teulu. Mae brodyr Teleri, Teifi a Tomos sy'n ffermio yn yr ardal, hefyd yn gefnogwyr brwd o'r sioe. Bob dydd Sadwrn cyn y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf, cewch weld y teulu yn gadael tref Castellnewydd Emlyn mewn confoi - mewn lori fawr gyda'r gwartheg a'r garafán ffyddlon. Mae mynd i'r sioe felly yn wyliau blynyddol iddyn nhw. "Ry'n ni fel teulu yn dangos gwartheg bîff masnachol ers blynyddoedd a dw i wedi bod yn cystadlu yn y Sioe Frenhinol ers dros ugain mlynedd. Mae cael y cyfle arbennig yma felly i gynrychioli'r Sir yn golygu lot fawr i'r teulu cyfan. Maen nhw'n sobor o falch ac rwy'n edrych ymlaen yn arw at yr her."