Cafwyd aelod blaenllaw a threfnydd Rhanbarth De Cymdeithas yr Iaith, Angharad Clwyd, ei harestio yn swyddfa heddlu Aberteifi heno, yn dilyn gweithredu’n uniongyrchol yn erbyn cwmni fferyllydd Boots, yn ei canghennau yn Llanbed ag Aberaeron ym mis Mehefin.

Ffilmiwyd y weithred, oedd yn rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i 'Weddnewid y Sector Breifat' ar noson y 17fed o Fehefin a'i ddarlledu ar wefan You Tube. Derbyniodd Angharad Clwyd, sydd yn ei seithfed mis o feichiogrwydd ei thrydydd plentyn rhybydd swyddogol gan yr heddlu am beintio slogan ‘95% uniaith Saesneg’ a ‘Mesur Iaith Cyflawn’ dros ffenestri a drysau blaen y ddau cangen.

Meddai Angharad Clwyd: "Mae’r weithred hon yn agos iawn at fy nghalon. Mae agwedd y sector breifat tuag at y Gymraeg yn ddifrifol niweidiol ar draws ein cymunedau yng Nghymru. Er gwaethaf ymgyrchoedd di-ri a sefydliad Bwrdd yr Iaith, nid wyf wedi gweld unrhyw newidiadau i drin y Gymraeg yn gydradd o fewn y sector breifat yn yr ugain mlynedd diwethaf."

"Rwy'n gobeithio'n daer y caiff fy mhlant yr hawl i fyw yn naturiol drwy’r Gymraeg, sef y prif reswm i mi ymgyrchu’n uniongyrchol yn erbyn Boots. Ar hyn o bryd, mae’r ffaith taw Saesneg yw iaith y sector breifat yng Nghymru yn niweidiol i normalrwydd y Gymraeg yng Nghymru.

Mae ein pobol ifanc yn gweld yr iaith yn israddol ag yn amherthnasol pan gerddant i lawr y stryd fawr."

Mae’n debygol mai ym mis Ionawr caiff LCO iaith y Llywodraeth ei chyhoeddi, yn gyd-amserol a Rali Calan Cymdeithas yr Iaith ar Heol y Frenhines, Caerdydd ar Ionawr 10fed.

Yn ôl Angharad: "Rwy’n fawr obeithio bydd y Gorchymyn Cymhwyso Deddfwriaethol arfaethedig yn trosglwyddo holl bwerau deddfwriaethol dros y Gymraeg i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i alluogi Llywodraeth Cymru'n Un i basio mesur iaith cyflawn a fydd yn caniatáu i’n plant dyfu fyny mewn gwlad gwbwl theg a naturiol ddwyieithog."