"Ges i bob dim posibl gan fy rhieni. Roedden nhw’n ddyddiau da. Ond chi’n gwybod y peth mwyaf gwerthfawr ges i? Y Gymraeg." Dyna neges un tad sydd am roi'r un cyfle i’w blentyn yntau.

Mae’r neges hon yn rhan o ymgyrch ddiweddaraf Twf, sy’n annog trosglwyddiad iaith yn y cartref; ac am y tro cyntaf erioed mae Twf yn estyn allan i gynulleidfa ehangach trwy hysbysebu ar y teledu.

Mae’r ymgyrch wedi ei hanelu yn bennaf at deuluoedd lle mai dim ond un rhiant sy’n siarad Cymraeg; ac yn amlinellu rhai o’r manteision niferus sydd yna o fod yn ddwyieithog – yn y byd addysg, gwaith a’r bywyd cymdeithasol.

Mae Twf yn un o brosiectau Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Dywedodd Meri Huws, Cadeirydd y Bwrdd: "Mae penderfynu magu’ch plant yn ddwyieithog yn benderfyniad pwysig iawn; ac mae Twf yn brosiect ardderchog sy’n rhoi gwybodaeth i rieni sut y gall siarad dwy iaith roi eich plentyn ar y blaen. Mae’r hysbyseb yn pwysleisio gwerth y Gymraeg – anrheg am byth – sy’n neges arbennig o berthnasol adeg y Nadolig."

Dywedodd Meryl Pierce, Cydlynydd Cenedlaethol Twf: "Mae’n wych o beth fod yr hysbyseb yn cael ei darlledu adeg y Nadolig – adeg pan fydd teuluoedd yn gwylio’r teledu gyda’i gilydd. Mae neges yr hysbyseb yn bwysig ac yn berthnasol i deuluoedd Cymru heddiw. Ein gobaith yw y bydd yr hysbyseb yma yn gam arall tuag at rannu neges Twf efo rhieni a’u hargyhoeddi o bwysigrwydd rhoi’r rhodd o ddwyieithrwydd i’w plant yn y cartref."

Bydd yr hysbyseb yn ymddangos ar S4C o 9.15 heno (10 Rhagfyr) tan ddiwedd Rhagfyr, ac ar ITV Cymru o 22 Rhagfyr tan ddiwedd y mis.