Mae un o grwpiau gwerin mwyaf amlwg Cymru dros y deugain mlynedd diwethaf, Mynediad am Ddim, yn dod i berfformio mewn digwyddiad awyr agored a drefnwyd gan Abaty900 ym mis Gorffennaf.

A bydd un arall o sêr diweddar Cymru, Lowri Evans o Drefdraeth yn ymuno gyda nhw yn Abaty Llandudoch.

Dyma fenter newydd i Abaty900, cymdeithas sy’n hybu diddordeb a chynyddu ymwybyddiaeth yn yr hen adeilad yn Llandudoch. Yn ystod y blynyddoedd diweddar, corau meibion sydd wedi bod yn diddanu. Ond penderfynodd y grŵp fynd i gyfeiriad gwahanol eleni, gan obeithio denu tyrfa o ardal eang i fwynhau.

Yn ôl y trefnwyr, dyma gyfle i ymlacio a mwynhau mewn awyrgylch anffurfiol, ac mae croeso i’r gynulleidfa ddod a bwyd a diod e hunain (a bydd bar ar gael) i fwynhau prynhawn al ffresco yn Abaty Llandudoch.

Cafodd Mynediad am Ddim ei sefydlu yn 1974, pan oedd yr aelodau i gyd yn fyfyrwyr yn Aberystwyth. Maent wedi parhau i ganu a pherfformio ar hyd y blynyddoedd gan ryddhau nifer o albyms ac ymddangos mewn gwyliau mawr ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.

Mae Mynediad am Ddim yn gerddorion gwych ac yn boblogaidd ledled Cymru. Maent yn canu amrywiaeth o ganeuon gwerin newydd, modern a rhai traddodiadol gan greu harmonïau grymus, cyffrous. Yn gefndir i’r cyfan, mae llu o wahanol offerynnau sy’n creu sain llawn cynnwrf.

Mae’r cyngerdd yn cael ei noddi gan BV Rees cyf, Modurdy’r Abaty; Dr John F Rees, Pantygalchfa; Awen Teifi, Aberteifi; a Rosehill Dairy, Llechryd

Graddiodd Lowri gyda gradd mewn jazz a chanu poblogaidd a masnachol o Brifysgol Newcastle, ac ers hynny mae hi wedi bod yn cynhyrchu albyms a pherfformio’n gyson ar hyd a lled y wlad.

Daeth adref i Gymru yn 2003 ar ôl teithio am rai misoedd yn ne America ac, ers hynny, mae hi wedi ysgrifennu a pherfformio ei cherddoriaeth ei hunan.

Ers 2005 mae hi a’i phartner, Lee Mason, wedi cydweithio’n llwyddiannus fel deuawd gan ddatblygu dilyniant da. Mae ganddynt dros ddegawd o brofiad ysgrifennu, recordio, cynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth gyda’i gilydd. Mae’n gigio’n gyson, gan ymddangos yn aml ar Radio Cymru a Radio Wales, ac ar raglenni teledu. Mae ei llais unigryw yn hawlio sylw, ac mae ganddi bresenoldeb llwyfan cryf

Bydd y cyngerdd yn Abaty Llandudoch ar ddydd Sul, Gorffennaf 22, am 2.30pm. Tocynnau: £12 (plant dan 12 am ddim) – ar gael o Theatr Mwldan, Aberteifi.