Mae Clwb Gwawr Glannau Teifi wedi ennill gwobr am y rhaglen orau i ganghennau Merched y Wawr a Chlybiau Gwawr 2018.

Teithiodd tair o aelodau’r clwb i’r Ŵyl Haf a chyfarfod blynyddol Merched y Wawr yn Ysgol Uwchradd Bro Hyddgen ym Machynlleth.

Cynhelir cystadleuaeth bob blwyddyn i ddod o hyd i’r Rhaglen Orau ymhlith holl ganghennau Merched y Wawr a Chlybiau Gwawr Cymru benbaladr – mae yna rhyw 285 cangen i gyd, ac eleni dyfarnwyd mai rhaglen Clwb Gwawr Glannau Teifi oedd wedi dod i’r brig.

Yn ôl y beirniaid, sef Anne Elis a Meirwen Lloyd, roedd y rhaglen hon yn un ddeniadol a chynhwysfawr dros ben. Mae diolch y clwb yn mynd i Tydfil Parry-Jones ac Emma Lloyd am greu’r rhaglen.

Glannau Teifi yw’r Clwb Gwawr cyntaf i ennill y wobr ers sefydlu’r Clybiau Gwawr rhyw ugain mlynedd yn ôl.