Ers 2004 mae’r disgyblion a fynychodd Ysgol Gynradd Aberbanc cyn Medi 1970 wedi ymgynnull yn achlysurol i rannu atgofion a chadw cyfeillgarwch oes yn fyw.

Erbyn hyn mae’r ysgol wedi cau ond mae’r awydd i gwrdd yn dal yn fyw.

Ar ddydd Gwener, Mai 11, eleni daeth 90 ynghyd yng Ngwesty’r Porth, Llandysul i fwynhau cinio blasus. Yn anffodus mae'r digwyddiad wedi colli nifer fawr o’i gwmniwyr selog yn ystod y ddwy flynedd ers y cyfarfod diwethaf.

Gwraig wadd eleni oedd Mrs Margarette Hughes, Hen Dŷ Gwyn ar Daf, neu Margarette Cwerchyr gynt. Roedd yn braf cael cyfle i’w llongyfarch ar gael ei henwebu i’r orsedd eleni am ei gwaith diflino dros Gymreictod yn ei bro a Chymru gyfan.

Mae’n ymuno yn awr â nifer fach ddethol o gyn-ddisgyblion yr ysgol sy’ wedi derbyn yr anrhydedd hon.

Yn ystod y cinio hefyd cafwyd cyfle i gefnogi Ysbyty Plant Bryste trwy law Mr Malcolm Davies, (Cefn gynt).

Diolchwyd i bawb a ddaeth i greu prynhawn byth gofiadwy ac mae edrych ymlaen at gwrdd eto tua 2020.