Fel arfer, cynhaliwyd Swper Nadolig Cymdeithas Ceredigion yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes.

Cafwyd pryd o fwyd o’r safon uchaf fel arfer ac wedi’r wledd nid oedd chwant bwyd ar neb am sawl diwrnod. Yn ystod y noson gwahoddwyd y ciniawyr i lunio yn fyrfyfyr limrig a’r llinell yn ystod fy ngwyliau eleni ynddo a hefyd frawddeg a’i geiriau yn dechrau â’r llythrennau T-A-F-A-R-N neu B-R-E-C-S-I-T.

Enillodd Emyr Davies, Ffostrasol, y gystadleuaeth gyntaf a fe fyddai Emyr wedi ennill yr ail hefyd ond penderfynwyd y byddai hynny wedi ymylu ar fwlian llenyddol. Cafodd Alun Davies, Caersallog, y wobr yn ei le a’i gynnig yntau yn hollol deilwng. Diolchwyd i Dai Rees Dafis, Rhydlewis, a Mary Jones, Aber-porth, am feirniadu’r ddwy gystadleuaeth mor drwyadl.

Ond uchafbwynt y noson oedd yr adloniant a gyflwynwyd gan Hoffgan wrth iddynt ganu’n raenus nifer o garolau a chaneuon traddodiadol a newydd gan swyno eu holl gynulleidfa. Gr?p o rieni plant sy’n mynychu Ysgol T Llew Jones, Brynhoffnant, yw Hoffgan a ddatblygwyd fel modd o gymdeithasu y tu allan i oriau ysgol. B

Bu’r noson dan ofal gofalus Carol Byrne Jones, is-lywydd y gymdeithas, am nad oedd llywydd y tymor, Emyr Hywel, mewn iechyd da. Dymunwyd gwellhad buan iddo.

Bydd y cyfarfod nesaf ar nos Sul, Ionawr 14, am 7 o'r gloch yng Nghapel Blaenannerch pryd y cynhelir gwasanaeth Plygain. Croeso cynnes i bawb.