Bydd G?yl Cerdd Dant Cymru yn cyrraedd carreg filltir bwysig pan ddaw i Landysul a’r Fro eleni. Bydd yn 70 oed.

Digwyddiad cenedlaethol undydd yw'r ?yl a gynhelir bob mis Tachwedd i ddathlu diwylliant gwerin Cymru. Dyma brif ddigwyddiad blynyddol Cymdeithas Cerdd Dant Cymru a sefydlwyd yn 1934. Cynhaliwyd yr ?yl gyntaf yn 1947 yn y Felinheli. Erbyn heddiw mae wedi ennill ei phlwyf fel un o brif wyliau diwylliannol Cymru. Dyma’r eildro i’r ?yl gael ei chynnal yn y fro. Cynhaliwyd hi yma am y tro cyntaf yn 1960.

Cynhelir yr ?yl ar safle newydd Ysgol Bro Teifi Llandysul G?yl ar Dachwedd 11. Cyhelir rhagbrofion yn y bore cyn i’r prif weithgareddau ddechrau am ganol dydd.

Cewch gyfle i weld a phrofi gwledd o gystadlaethau cerdd dant, canu gwerin, llefaru, dawnsio gwerin, a’r delyn.

Bydd cyfle i bob oed gystadlu - cynradd, uwchradd, myfyrwyr ac oedolion. Byddant yn teithio i’r ardal o bob rhan o Gymru a thu hwnt.

Ceir llu o gystadlaethau bywiog a lliwgar unigol a thorfol sy’n cynnwys deuawdau, triawdau, partïon a chorau.

Sefydlwyd Pwyllgor Gwaith o dan gadeiryddiaeth y Cynghorydd Keith Evans ynghyd â nifer o is-bwyllgorau. Gosodwyd nod ariannol o £40,000 i’r ardal. Bu’r aelodau yn brysur ers bron i ddwy flynedd yn trefnu gweithgareddau i godi arian a chreu rhaglen destunau.

Cafwyd cefnogaeth ariannol sylweddol gan lu o noddwyr hael a chynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau amrywiol gan gynnwys Cyngerdd Cyhoeddi a chyngerdd gan ddisgyblion cynradd y cylch. Erbyn hyn braf yw nodi bod y nod ariannol wedi ei gyrraedd.

Rhan fawr o’r targed ariannol yw’r gwobrau hael a niferus a roddir i’r enillwyr

Mawr yw diolch y pwyllgor i’r holl garedigion am eu cyfraniadau hael. Bydd enwau’r cyfranwyr yn ymddangos yn Rhaglen y Dydd.

Yn ogystal â’r gwobrau ariannol rhoddir tlws hardd i’r holl enillwyr. Crëwyd y tlws sy wedi ei lunio ar ffurf logo’r ?yl gan athro dylunio a thechnoleg Ysgol Bro Teifi sef Mr Andy Walters.

Dyluniwyd logo G?yl Cerdd Dant Llandysul a’r Fro gan Dr Rhys Bevan-Jones o Gaerdydd. Magwyd Rhys yn yr ardal yn fab i Mrs Wenna Bevan-Jones a’r diweddar Ddr Huw Bevan-Jones Pantycrauddyn a mynychodd Ysgol Gynradd Tregroes ac Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi.

Ers yn blentyn dangosodd dalent arbennig fel cartwnydd ac enillodd wobrau lu yn y maes hwn yn cynnwys, yn gynnar iawn, cystadleuaeth gan bapur y ‘Times’ yn Llundain.

Rhys hefyd oedd yn gyfrifol am ddylunio logo Eisteddfod yr Urdd Bro Preseli 1995 ac Eisteddfod yr Urdd Llanbedr Pont Steffan 1999.

Gwelir ei waith mewn cylchgronau, llyfrau rhyddiaith a barddoniaeth Cymraeg a’r hiwmor yn ei ddarluniau yn aml yn ychwanegu at y cynnwys.

Tasg anodd iddo oedd dewis gyrfa wrth gychwyn prifysgol. Yn ogystal â dilyn cwrs meddygaeth yng Nghaerdydd, astudiodd yng ngholegau celf St Martins a Kingston gan dderbyn gradd Dosbarth Cyntaf. Erbyn hyn mae’n gweithio ac ymchwilio yn seiceiatryddiaeth a theimla Rhys yn gryf fod gwneud defnydd o’i arbenigedd ym myd celf yn gyfrwng pwysig yn ei waith bob dydd.

Sesiwn y prynhawn i ddechrau am ganol dydd. Sesiwn yr hwyr i ddechrau am 6yh.

Digon o le parcio a lluniaeth ar gael drwy’r dydd.

Am wybodaeth pellach ewch i gwylcerdddant2017.cymru/