Eisteddfod Safonol a Chroesawgar

“Eisteddfod gwerth chweil – eisteddfod safonol a chroesawgar.” Dyna oedd barn Beryl Vaughan, y beirniad llefaru, am Eisteddfod Llandudoch 2017.

O’r cychwyn cyntaf, pan agorwyd y gweithgareddau gan gr?p o blant ifancaf Ysgol Llandudoch, hyd at yr Her Unawdau ar ddiwedd y nos, bu cystadlu brwd a di-baid yn Neuadd Llandudoch.

Bu’r Eisteddfod Leol, Eisteddfod yr Ifanc ac Eisteddfod yr Hwyr i gyd yn brysur, gyda nifer dda o gystadleuwyr yn dod ymlaen i gymryd rhan – fe’n difyrrwyd, a weithiau ein syfrdanu, gan berfformiadau o safon uchel.

Enillydd Tlws W R Smart fel llenor mwyaf addawol y cystadlaethau plant i gyd oedd Greta Fflur Bowen o Gynwyl Elfed. Mae Greta yn ddisgybl yn Ysgol y Dderwen Caerfyrddin, a chafodd ei gwaith ganmoliaeth uchel iawn gan Mair Heulyn, y beirniad.

Yr un a ddaeth i’r brig fel yr arlunydd mwyaf addawol, a chipio Gwobr Goffa Kenneth Mower, oedd Lefi Dafydd, Ysgol Eglwyswrw. Dyma’r ail flwyddyn o’r bron i Lefi gael y wobr hon ar ôl i’r beirniad ganmol ei dechneg arbennig.

Enillwyd Tlws Llenyddiaeth yr Ifanc gan Nest Jenkins o Lledrod, sy’n ddisgybl yn Ysgol Henry Richard, Tregaron. Mae Nest yn wyneb cyfarwydd mewn eisteddfodau gan gynnwys Eisteddfod Gendlaethol yr Urdd.

Bardd y gadair eleni oedd Huw Dylan Jones, Treforus am ei gywydd o dan y testun ‘Colled’. Daeth i’r brig mewn cystadleuaeth dda rhwng deg o feirdd, gan ysgrifennu am ddiflaniad yr iaith yn yr hen Sir Fynwy

Enillwyr Côr Llandudoch 2017 oedd Ysgol Gerdd Ceredigion – yr ail flwyddyn o’r bron iddynt gipio’r wobr hon.

Gwobr newydd eleni oedd Gwobr Goffa Sheila Penrallt-y-dre. Cyflwynwyd y wobr hon i’r eisteddfod er cof am Sheila Davies, un a gefnogodd fywyd cymunedol Llandudoch yn helaeth, gan gynnwys yr eisteddfod.

Canlyniadau

Llên y plant

Blwyddyn 1 a 2: 1. Fflur McConnell, Aberaeron; 2. Martha Eiry Bowen, Cynwyl Elfed; 3. Megan Harries, Ysgol Eglwyswrw.

Blwyddyn 3 a 4: 1. Greta Fflur Bowen, Cynwyl Elfed; Efa Lewis, Trefdraeth; =3 Alaw Thomas, Ysgol Llanychllwydog a Ioan Harries, Ysgol Eglwyswrw.

Blwyddyn 5 a 6: 1. Ella Forster, Ysgol Llandudoch; 2. Lefi Dafydd, Ysgol Eglwyswrw; =3. Tomos Lewis, Ysgol Llandudoch a Bedwyr Thomas, Ysgol Llanychllwydog.

Tlws W.R.Smart i’r llenor mwyaf addawol - Greta Fflur Bowen, Cynwyl Elfed.

Celf y Plant

Meithrin/Derbyn: 1. Delor Thomas, Ysgol Llanychllwydog; 2. Ava Stella Thomas, Ysgol Llandudoch; 3. Reuben Woracker, Ysgol Llandudoch.

Blwyddyn 1 a 2: Fflur McConnell, Aberaeron; 2. Ollie Towe, Ysgol Llandudoch; 3. Noa Llewelyn, Ysgol Llandudoch.

Blwyddyn 3 a 4: 1. Holly Forster, Ysgol Llandudoch; 2. Isabella Evans, Ysgol Cenarth; 3. Annie Lewis, Ysgol Llandudoch. Cymeradwyaeth uchel : Dexter West, Ysgol Llandudoch.

Blwyddyn 5 a 6: 1. Molly James, Ysgol Llandudoch; 2. Lefi Dafydd, Ysgol Eglwyswrw; 3. Bedwyr Thomas, Ysgol Llanychllwydog. Cymeradwyaeth uchel : Lucas Collins, Ysgol Cenarth; Rhys Caygill a Ella Carys Forster, Ysgol Llandudoch.

Plant hyd at Blwyddyn 6 mewn Uned Addysg Arbennig : 1. Corey Brown, Canolfan y Don Aberporth; 2. Amber Morris, Canolfan y Don Aberporth; 3. Stephen Shipton, Canolfan y Don Aberporth. Cymeradwyaeth Uchel : William Royle a Sophi Dutnall, Canolfan y Don Aberporth.

Ffotograffiaeth: 1. Ella Rachel Davies, Ysgol Llandudoch; 2. Bedwyr Thomas, Ysgol Llanychllwydog; 3. Harriet Wigley, Ysgol Llandudoch.

Tlws Kenneth Mower i’r arlunydd mwyaf addawol yn y cystadlaethau i gyd : Lefi Dafydd, Ysgol Eglwyswrw.

Llên Ieuenctid

Tlws Llenyddiaeth yr Ifanc: Nest Jenkins, Lledrod.

Barddoniaeth 11 – 16: 1. Marged Ioan, Ysgol Bro Teifi.

Rhyddiath 16-26: 1. Alaw Fflur Jones, Felinfach.

Barddoniaeth 16-26: 1. Lois Alwyn, Ysgol Bro Teifi a Ffion Morgan, Aberteifi.

Cystadlaethau Llên Agored

Y Gadair: Huw Dylan Owen, Treforus.

Telyneg: Hannah Roberts, Caerdydd.

Soned: rhannu rhwng Megan Richards, Aberaeron a Hannah Roberts, Caerdydd. Pedwar triban: Rhannu rhwng Enfys Tanner a Martin Huws, Ffynnon Tâf.

Englyn : Eirwyn George, Maenclochog.

Emyn Heddwch: Mary B Morgan, Llanrhystud. Limrig: Megan Richards, Aberaeron.

Cân Ddigri: Megan Richards, Aberaeron.

Stori Fer: Rhian Williams, Caerdydd.

Cystadleuaeth Clebran: Rhannu rhwng Trefor Huw Jones, Llanfarian ac ‘Un sy’n dal i edmygu’r cochyn’.

Cystadlaethau i ddysgwyr

Lefel Mynediad: rhannu rhwng Daisy Roba, Janice ac Elaine.

Lefel Sylfaen: Margaret Kemsley, Llandudoch.

Lefel canolradd: rhannu rhwng Penny Poulson a Karen Simmonds.

Lefel uwch: 1 Wendy Evans, Aberteifi; 2 Ray Jones, Trefdraeth.

Cystadlaethau Lleol

Llefaru Bl 2 ac iau: 1. Dyfan Lewis, Eglwyswrw.

Unawd Bl 2 ac Iau: 1. Logan Lumb, Ysgol Llandudoch 2 Bobby Thomas, Ysgol Llandudoch 3. Lilwen Ford, Ysgol Llandudoch.

Llefaru Bl 3 a 4: 1. Ll?r Wyn Bowen, Aberteifi.

Unawd Bl 3 a 4: 1. Holly Forster, Ysgol Llandudoch.

Llefaru Bl 5 a 6: 1 Siôn Wyn Bowen, Aberteifi 2. Ella Forster, Ysgol Llandudoch.

Unawd Bl 5 a 6: 1. Amber Richards, Aberteifi 2. Siôn Wyn Bowen, Aberteifi 3.Molly James, Ysgol Llandudoch.

Gr?p llefaru dan 12: 1.

Gr?p 5 a 6 Ysgol Llandudoch 2.

Gr?p 3 a 4 Ysgol Llandudoch. Gwobr Her Nantypele i’r perfformiad llwyfan gorau yn lleol: Holly Forster, Ysgol Llandudoch.

Parti/côr dan 12 : Côr Merched a Chôr Bechgyn Ysgol Llandudoch yn rhannu’r wobr.

Cystadlaethau agored

Llefaru oed derbyn neu iau: 1 Gruff Rhys Davies 2. Celyn Rhys Davies 3 Nesta Neli Bowen, Cynwyl Elfed.

Llefaru Bl 1 a 2: 1 Gwenllian Lloyd Owen, Llanllwni 2. Megan Fflur Morgan, Talyllychau 3. Fflur McConnell, Aberaeron.

Unawd Bl 1 a 2: 1 Fflur McConnell, Aberaeron 2. Gwennan Lloyd Owen, Llanllwni 3. Megan Fflur Morgan Talyllychau.

Gwobr Her Calon Ifanc i’r cystadleuydd ifanc gorau: Gruff Rhys davies.

Llefaru Bl 3 a 4: 1 Alwena Mair Owen, Llanllwni 2. Greta Bowen, Cynwyl Elfed.

Unawd Bl 3 a 4: 1. Alwena mair Owen, Llanllwni 2. Megan Fflur Morgan, Talyllychau.

Llefaru Bl 5 a 6: 1 Erin Fflur Morgan, Talyllychau 2. Ioan Mabbut, Aberystwyth 3. Ffion Mai Davies, Llanybydder ac Efa Lois Williams, Aberystwyth.

Unawd Bl 5 a 6: 1. Siwan Mair Jones, Caerfyrddin 2. Erin Fflur Morgan, Alltwalis 3. Ffion Mai Davies, Llanybydder.

Alaw Werin dan 12: Siwan Mair Jones, Caerfyrddin 2. Erin Fflur Morgan, Alltwalis 3. Ioan Mabbut, Aberystwyth.

Canu emyn dan 12: 1. Fflur James, Eglwyswrw 2. Amber Richards, Aberteifi 3. Alwena Mair Owen, Llanllwni.

Cerdd dant dan 12: 1. Siwan Mair Jones, Caerfyrddin 2. Fflur McConnell, Aberaeron 3 (cydradd) Megan Wyn Morris, Talyllychau a Alwena Mair Owen, Llanllwni.

Unawd piano dan 12: 1. Lefi Dafydd, Eglwyswrw 2.Fflur James, Eglwyswrw 3. Alwena Mair Owen, Llanllwni.

Unrhyw offeryn cerdd dan 12: 1. Alwena Mair Owen, Llanllwni 2. Rhys Caygill, Llandudoch, 3. Erin Fflur Morgan, Alltwalis.

Gwobr Her Iwan a Siân Davies am y perfformiad llwyfan gorau dan 12: Siwan Mair Jones, Caerfyrddin.

Deuawd dan 12: 1. Siwan a Mali, Caerfyrddin 2. Erin ac Alwena, Alltwalis.

Llefaru dan 16: 1. Fflur James, Eglwyswrw.

Unawd dan 16: 1.Sioned Fflur James, Llanybydder; 2. Ffion Thomas, Crymych 3. Bethan Evans, Llansadwrn.

Alaw Werin dan 16: 1. Bethan Evans, Llansadwrn 2. Sioned Fflur Davies, Llanybydder 3. Ffion Thomas, Crymych.

Canu emyn dan 16: 1. Ffion Thomas, Crymych 2. Sioned Fflur Davies, Llanybydder.

Unawd Piano dan 16: 1. Annest Davies, Mwnt 2. Sioned Davies, Llanybydder 3. Leusa Bowen, Cynwyl Elfed.

Offeryn Cerdd dan 16: 1. Heledd Jones, Saron, Llandysul 2. Leusa Bowen, Cynwyl Elfed.

Gwobr arbennig Merched y Wawr i berfformwyr dan 16 : Annest Davies, Mwnt.

Llefaru dan 19: 1. Nest Jenkins, Lledrod.

Llefaru dan 26: 1. Gwenllian Llwyd, Talgarreg 2. Heledd Llwyd, Talgarreg.

Unawd dan 26: 1. Gwenllian Llwyd, Talgarreg.

Alaw Werin dan 26: 1. Gwenllian Llwyd, Talgarreg 2. Heledd Llwyd, Talgarreg.

Offeryn Cerdd dan 26: 1. Nest Jenkins, Lledrod.

Deuawd dan 26: 1. Gwenllian a Heledd Llwyd, Talgarreg.

Côr Llandudoch: 1. Ysgol Gerdd Ceredigion 2. Seingar 3. Bechgyn Bro Taf.

Cyflwyniad ysgafn : Heledd a Gwenllian Llwyd, Talgarreg.

Cân allan o Sioe Gerdd: 1.Gwenllian Llwyd, Talgarreg 2. Heledd Llwyd, Talgarreg 3. Ffion Thomas, Crymych.

Canu emyn dan 60: 1. Gwenllian Llwyd, Talgarreg 2. Heledd Llwyd, Talgarreg.

Darllen darn o’r ysgrythur: 1. Nest Jenkins, Lledrod 2. Llinos Devonald, Llandudoch 3. Heledd Llwyd, Talgarreg.

Canu emyn dros 60: 1. Colin James, Dorchester 2. Gwyn Jones, Llanafan.

Prif gystadleuaeth lefaru: 1. Nest Jenkins, Lledrod 2. Heledd Llwyd, Talgarreg 3. Gwenllian Llwyd, Talgarreg.

Yr Hen Ganiadau : John Davies, Llandybie 2. Efan Williams, Lledrod 3. Jennifer Parry, Aberhonddu.

Yr Her Unawd: 1. Efan Williams, Lledrod 2. Marianne Powell, Llandre 3. Jennifer Parry, Aberhonddu 4. Gerwyn Prys, Porthyrhyd.

Y beirniaid cerdd eleni oedd Eleri Roberts, Y Bontfaen – merch o Flaenffos yn wreiddiol.

Bu’r llefaru yng ngofal Beryl Vaughan o Lanerfyl.

Y beirniad llên oedd y Prifardd Idris Reynolds o Frynhoffnant ac yn noson y beirniadaethau nos Fercher cyn yr eisteddfod, ymunodd y prif lenor Eurig Salisbury gydag ef i feuryna’r Talwrn. Tîm Bechgyn Glannau Teifi oedd yn fuddugol yn yr ornest honno.