Gan Anwen Francis

BU DATHLU mawr ar gampws Aberteifi Coleg Ceredigion wythnos ddiwethaf wrth i’r gweinidog dros y gymraeg ac addysg gydol oes, Alun Davies agor Canolfan Gymraeg newydd, Y Man a’r Lle ddydd Llun.

Adeiladwyd y ganolfan fel canolbwynt i weithgareddau addysgiadol, cymdeithasol a diwylliannol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn nhref Aberteifi a’r cyffiniau.

Y gobaith yw y bydd y ganolfan yn cynnig cartref parhaol i sefydliadau a mudiadau Cymraeg y dref ac yn fan cyfarfod anffurfiol i’r gymuned ynghyd â myfyrwyr y coleg a disgyblion ysgol.

Dywedodd Alun Davies AC: “Bydd Y Man a’r Lle yn rhan bwysig o’r gymuned, ac yn cynnig gofod modern a chysurus i bobl o bob oed lle gallant fwynhau a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae’r ardal hon yn un o bwysigrwydd strategol i’r iaith Gymraeg ac fe fydd y ganolfan hon yn cyfrannu’n fawr tuag at annog mwy o bobl i ddysgu Cymraeg ynghyd â bod â’r hyder i ymarfer a defnyddio’u Cymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.”

Yn ogystal ag araith y gweinidog cafwyd braslun o nod yr adeilad gan bennaeth gwasanaethau corfforaethol y coleg, Non Davies ynghyd â gair am rôl y coleg gan y pennaeth, Jacqui Weatherburn.

I gloi’r areithiau gwahoddwyd y Prifardd Ceri Wyn Jones i ddweud gair ar ran y gymuned leol. Ceri hefyd a fu’n gyfrifol am lunio’r cwpled sydd yn addurno ffenestri’r Ganolfan: “Gyda hyn o gyd-dynnu, rhown do iau ar yr hen dy.”

Yn ystod yr agoriad, diddanwyd y gynulleidfa, a oedd yn cynnwys llywydd y Cynulliad Elin Jones; maer tref Aberteifi, y Cyng Clive Davies; cynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion, cynghorwyr Tref Aberteifi, cynrychiolwyr sefydliadau grwpiau a busnesau lleol, myfyrwyr a staff y coleg, gan gôr Ysgol Gynradd Aberteifi, Gwenllian Hunting-Morris o Ysgol Uwchradd Aberteifi ar y delyn a Gwion Morgan Jones, myfyriwr cwrs celfyddydau perfformio yng Ngholeg Ceredigion.

Derbyniodd Coleg Ceredigion £300,000 oddi wrth Llywodraeth Cymru drwy Grant Buddsoddi Cyfalaf: Bwrw Mlaen 2015-16, er mwyn datblygu’r ganolfan ar gampws y coleg yn nhref Aberteifi.

Mae’r ganolfan yn un o ddeg sydd wedi cael eu hariannu gan y Llywodraeth gyda’r nod o hybu defnydd o’r iaith Gymraeg ledled Cymru. Mae’r canolfannau iaith newydd yn cael eu datblygu i wneud y Gymraeg yn rhan weledol o fywyd bob dydd.

Bydd y ganolfan bwrpasol hon hefyd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr y coleg dderbyn hyfforddiant a datblygu sgiliau galwedigaethol mewn meysydd megis arlwyo a lletygarwch. Bwriad y coleg yw cynnal sesiynau hefyd i fusnesau lleol ar ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.