Bu eisteddfod fywiog yn Llandudoch eleni eto, gyda chystadlu cyson ar hyd y dydd. Y beirniaid eleni oedd Mrs Meinir Richards, Llanddarog (Cerddoriaeth), Mr Gari Owen, Hendy (Llefaru) a’r prifardd Emyr Lewis, Craigcefnparc (Llenyddiaeth).

Cyn yr eisteddfod ei hun ar Ddydd Sadwrn, Mai 21ain cynhaliwyd dwy noson arall o weithgareddau. Ar Nos Lun, Mai 16eg cafwyd noson wobrwyo cystadlaethau celf a llên y plant yn Theatr Mwldan. Prif lenor y plant, ac enillydd gwobr goffa W.R. Smart, oedd Lefi Aled Dafydd, Eglwyswrw ac ef hefyd aeth â’r brif wobr arlunio, Gwobr Goffa Kenneth Mower. Cafodd ei wobrwyo mewn seremoni fer yn ystod yr eisteddfod brynhawn Sadwrn. Cafodd ei groesawu i’r llwyfan gan gadeirydd y pwyllgor, June Smart, a chafodd ddawns deyrnged fywiog iawn gan gr?p o ddisgyblion Ysgol Llandudoch. Mrs Aeres James, Trefdraeth a Mrs Gwyneth Alban, Pencader oedd beirniaid cystadlaethau’r plant.

Cafodd Tlws Llenyddiaeth yr Ifanc ei ennill gan Sioned Martha Davies, Gwyddgrug gyda chanmoliaeth uchel iawn am ei gwaith oddi wrth y beirniad y Prifardd Emyr Lewis. Mae hi wedi ennill nifer o wobrywon mewn eisteddfodau am ei gwaith ysgrifennu, ac mae ei bryd ar fod yn awdur.

Enillwyd y gadair gan Hefin Wyn o Faenclochog, wyneb cyfarwydd yn y byd eisteddfodol. Bu’n newyddiadurwr papur newydd ac ar y teledu, ac erbyn hyn mae’n awdur nifer dda o lyfrau. Mae’n amlwg hefyd ym mywyd cymdeithasol ei ardal. Daeth ei gasgliad o gerddi yn mynegi ei ofidiau a’i ddicter am ddatblygiadau Castell Aberteifi a chanmoliaeth uchel iddo. Dyma’r trydydd tro iddo ennill cadair Llandudoch.

Llywydd y dydd oedd Mrs Nia James, Abertawe, gynt o Landudoch. Rhoddodd araith ddifyr iawn yn sôn am ei phlentyndod yn Llandudoch, gan ddwyn i gof llawer o gymeriadau diddorol a hanesion hwyliog.

Enillodd Meirion Wynn Jones, Caerfyrddin ar gyfansoddi emyn dôn, a braint oedd cael clywed yr emyn yn cael ei chanu gan Gôr Crymych, dan arweiniad ei wraig, Angharad.

Enillydd Côr |Llandudoch eleni oedd Ysgol Gerdd Ceredigion a chipiwyd yr Her Unawd gan John Davies, Llandybie.

Daeth y cystadlu i ben ychydig cyn hanner nos.

Cystadlaethau Llenyddol y plant:

Plant hyd at Flwyddyn 2: 1af,Alaw Thomas, Cwm Gwaun; 2il, Gwyneth Lewis, Trefdraeth; 3ydd, Hawys Lloyd Davies, Brynhoffnant

Plant blynyddoedd 3 a 4 : 1af, Bedwyr Thomas, Cwm Gwaun; 2il, Esyllt Medi Davies, Blaenannerch; 3ydd, Efa Lewis, Trefdraeth

Plant blynyddoedd 5 a 6 : 1af Lefi Aled Dafydd, Eglwyswrw; 2il Ella Carys Forster, Ysgol Llandudoch; 3ydd Owain Griffiths, Talgarreg

Gwobr Her W.R.Smart i’r llenor mwyaf addawol yn y cystadlaethau llên plant: Lefi Aled Dafydd, Eglwyswrw

Cystadlaethau Celf y plant:

Oed meithrin neu dderbyn: 1af, Reuben Woracker, Ysgol Llandudoch; 2il: Lily Rees Langley, Mwnt; 3ydd Owen Managhan, Ysgol Cenarth Cymeradwyaeth uchel : Finley Maddock,Ysgol Llandudoch; Danny Graham, Ysgol Llandudoch; Naomi Davies, Ysgol Cenarth

Blwyddyn 1 a 2 : 1af, Sam James, Ysgol Llandudoch; 2il, Callum Morgan, Ysgol Aberporth; 3ydd, Amelia Williams, Ysgol Cenarth. Cymeradwyaeth uchel : Bobby Thomas, Ysgol Llandudoch; Brandon Jenkins, Ysgol Aberporth, Daniel Whitehouse, Ysgol Cenarth.

Blwyddyn 3 a 4. 1af: Holly Forster, Ysgol Llandudoch; 2il, Jack Graham, Ysgol, Llandudoch; 3ydd, Alfie Hutchinson, Ysgol Aberporth. Cymeradwyaeth Uchel: Rhys Monaghan, Ysgol Cenarth

Blwyddyn 5 a 6. 1af: Lefi Aled Dafydd, Eglwyswrw; 2il Charlotte Warren, Ysgol Llandudoch; 3ydd, Mabli Clegg, Ysgol Llandudoch . Cymeradwyaeth Uchel : Beatrice North, Ysgol Llandudoch

Anghenion Addysgol Arbennig(Cymedrol/Difrifol)dan12. 1af: William Royle, Canolfan y Don, Aberporth; 2il Cydradd - Amber Morris, Canolfan y Don a Corey Elderfield, Canolfan y Don; 3ydd Cydradd - Corey Brown, Canolfan y Don a Steven Shipton, Canolfan y Don. Cymeradwyaeth Uchel : Lleucu Griffith, Owen Masson, Kaleb Irving, Johnny Bligh - i gyd o Ganolfan y Don

Ffotograffiaeth : Blwyddyn 6 ac iau. (Un llun). 1af: Ella Rachel, Ysgol Llandudoch; 2il, Alaw Thomas, Cwm Gwaun; 3ydd Kayleigh Fischer, Ysgol Llandudoch;

Gwaith 3D dan 12 : 1af Cai-George Thomas, Ysgol Llandudoch; Cymeradwyaeth Uchel: Alan Lucas, Ysgol Llandudoch

Tlws Coffa Kenneth Mower i’r arlunydd mwyaf addawol yng nghystadlaethau 17-21 : Lefi Aled Dafydd, Eglwyswrw

Yr Eisteddfod Leol:

Llefaru unigol Blwyddyn 3 a Blwyddyn 4. 1af: Siôn Wyn Bowen, Aberteifi ; 2il Gwen Lloyd James, Aberteifi ; 3ydd: Ll?r Wyn Bowen, Aberteifi .

Unawd Blwyddyn 3 a Blwyddyn 4. 1af: Siôn Wyn Bowen, Aberteifi ; 2il Gwen Lloyd James, Aberteifi ; 3ydd : Holly Forster, Llandudoch

Llefaru unigol Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6. 1af: Lefi Aled Dafydd, Eglwyswrw ; 2i l ; Fflur James , Eglwyswrw 3ydd: Ella Forster , Llandudoch

Unawd Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6. 1af: Fflur James, Eglwyswrw ; 2il Amber Richards, Aberteifi ; 3ydd Mallt Ladd Lewis, Boncath

Unawd Alaw Werin dan 12 oed. 1af:Amber Richards, Aberteifi 2il ; Teleri Selby , Penparc

Parti/Côr dan 12 oed. 1af: Ysgol Llandudoch

Gwobr Her i’r perfformiad gorau gan unigolyn yn y cystadlaethau lleol ym marn y beirniaid llefaru a cherdd: Siôn Wyn Bowen, Aberteifi

Eisteddfod yr Ifanc(Agored):

Llefaru unigol dosbarth derbyn neu iau. 1af: Gwennan Lloyd owen, Llanllwni; 2il: Dewi Tirion Ifan, Llangrannog

Unawd oed dosbarth derbyn neu iau. 1af: Gwennan Lloyd Owen, Llanllwni

Llefaru unigol Blwyddyn 1 a 2. 1af: Beca Elen Ebenzer; 2il: Fflur McConnell, Aberaeron

Unawd Blwyddyn 1 a 2. 1af: Beca Elen Ebenzer; 2il: Fflur McConnell, Aberaeron

Gwobr Her Calon Ifanc Llandudoch i’r perfformiad llwyfan unigol gorau yn yr holl gystadlaethau hyd at Flwyddyn 2 : Gwennan Lloyd Owen, Llanllwni

Llefaru unigol Blwyddyn 3 a 4. 1af: Erin Fflur Lewis, Castell Newydd Emlyn 2il: Cerys Angharad, Pencader 3ydd: Alwena Mair Owen, Llanllwni

Unawd Blwyddyn 3 a 4. 1af: Cerys Angharad, Pencarreg 2il: Efa Williams, Aberystwyth; 3ydd: Sara Peregrine, Hermon a Alwena Mair Owen, Llanllwni

Llefaru unigol Blwyddyn 5 a 6. 1af: Lefi Aled Dafydd, Eglwyswrw; 2il:Cerian Evans, Hermon

Unawd Blwyddyn 5 a 6. 1af:Siwan Mair Jones, Caerfyrddin 2il: Ceirian Evans, Hermon 3ydd: Amber Richards, Aberteifi

Unawd Alaw Werin dan 12 oed. 1af: Cerys Angharad, Pencarreg; 2il: Alwena Mair Owen, Llanllwni 3ydd: Siwan Mair Jones, Caerfyrddin

Canu emyn dan 12 oed. 1af: Amber Richards, Aberteifi ; 2il : Cerys Angharad, Pencarreg , 3ydd: Alwena Mair Owen, Llanllwni

Unawd Cerdd Dant dan 12 oed. 1af: Cerys Angharad, Pencarreg 2il:Alwena Mair Owen, Llanllwni 3ydd: Siwan Mair Jones, Caerfyrddin

Unawd piano dan 12 oed. 1af: Gwennan Haf Jones; 2il: Lefi Aled Dafydd, Eglwyswrw, 3ydd: Fflur James, Eglwyswrw ac Alwena Mair Jones, Llanllwni

Unawd unrhyw offeryn cerdd (eithrio’r piano) dan 12 oed. 1af: Cerys Angharad, Pencarreg, 2il: Lefi Aled Dafydd, Eglwyswrw, 3ydd: Rhys Caygill, Llandudoch

Deuawd dan 12 oed. 1af: Fflur James a Mallt Ladd Lewis, Eglwyswrw

Gwobr Her Iwan a Sian Davies, Isfryn i’r perfformiad llwyfan unigol gorau yn y cystadlaethau o oed Blwyddyn 3 i Flwyddyn 6 a than 12 oed: Amber Richards, Aberteifi

Llefaru unigol dan 16 oed. 1af: Luke Evans 2il: Sara-Lousie Davies, Synod Inn

Unawd. (Cwpan Her Miss Mair Evans) . 1af: Sara-Louise Davies, Synod Inn 2il: David Walker, Llandudoch; 3: Ffion Thomas, Crymych

Unawd Alaw Werin dan 16 oed. 1af: Luke Rees; 2il: Ffion Thomas, Crymych

Canu Emyn dan 16 oed. 1af: Sara-Louise Davies, Synod Inn

Unawd piano oed uwchradd dan 16 oed. 1af: Luke Evans, Pontantwn, Cydweli 2il: Ffion Thomas, Crymych

Gwobr Arbennig Merched y Wawr Llandudoch i’r perfformiad llwyfan gorau gan unigolyn yn y cystadlaethau dan 16 oed ym marn y beirniaid cerdd a llefaru: Sara-Louise Davies, Synod Inn

Deuawd 12 a than 21 oed. 1af: Hanna Medi, Gwyddgurg a Ella Evans, felinfach 2il: Ella a Sarah, Ysgol y Preseli

Eisteddfod yr Hwyr

Cystadleuaeth Côr Llandudoch : 1af: Ysgol Gerdd Ceredigion ; 2il: Côr Crymych a’r Cylch ; 3ydd: Côr Meibion Blaenporth

Cystadleuaeth Cymdeithas Eisteddfodau Cymru - Ensemble lleisiol dan 26 oed. 10–26 oed 1af : Nia, Esyllt, Marged a Ffion, Eglwyswrw

Cyflwyniad ysgafn gan gr?p neu unigolyn. 1af: ( Cydradd) Hana Medi Davies, Gwyddgrug ac Ysgol Gerdd Ceredigion:

Cân o unrhyw sioe gerdd 1af: Owain Rowlands, Llandeilo 2il: Hanna Medi Davies, Gwyddgrug ; 3ydd: Sara-Louise Davies, Synod Inn

Canu emyn, agored. 1af , Geraint Rees, Llandyfaelog, 2il: Gwion Thomas, Croeslan; 3ydd: Marianne Jones Powell, Llandre

Prif gystadleuaeth lefaru – 1af , Hanna Medi Davies, Gwyddgrug

Yr Hen Ganiadau: 1af , Erfyl Tomos Jones, Aberhosan; 2il, Efan Williams, Lledrod; 3ydd: John Davies, Llandybie

Her Unawd. 1af , John Davies, Llandybie ; 2il: Erfyl Tomos Jones, Aberhosan ; 3ydd , Efan Williams, Lledrod; 4ydd: Marianne Jones Powell, Llandre.

Cystadlaethau Llenyddol:

Talwrn y Beirdd : Tîm Tanygroes

Cystadleuaeth y Gadair : Hefin Wyn, Maenclochog

Tlws Llenyddiaeth yr Ifanc i gystadleuwyr hyd at 21 oed : Sioned Martha Davies, Gwyddgrug

Darn o ryddiaith 11 a than 16 : Hannah Medi Davies,

Gwyddgrug.

Darn o ryddiaith 16 a than 26 oed: Damwain. Sioned Martha Davies, Gwyddgrug

Darn o farddoniaeth ar unrhyw ffurf 11 a than 16 : Megan Lewis, Llanfihangel y Creuddyn

Telyneg : John Meurig Edwards, Aberhonddu

Soned : Mary Jones, Aberporth

Pedwar pennill telyn neu bedwar triban i bedwar arwr. John Meurig Edwards, Aberhonddu

Englyn : Philippa Gibson, Pontgarreg

Cywydd neu Hir a Thoddaid : Philippa Gibson, Pontgarreg

Limrig: Mary B Morgan, Llanrhystud

Cân ddigri : Mary B Morgan, Llanrhystud

Stori fer: Megan Lewis, Llanfihangel y Creuddyn

Cystadleuaeth CLEBRAN (Papur Bro’r Preseli) Lynda Ganatsiou, Thessaloniki, Groeg

Cyfansoddi tôn ar gyfer emyn :Meirion Wyn Jones, Caerfyrddin

Cystadlaethau i Ddysgwyr

Lefel Mynediad : 1af : Margaret Kemsley, Llandudoch

Lefel Sylfaen : 1af : Martyn Lewis

Lefel Uwch :1af Elizabeth Jones, Cwmhiraeth, Felindre