Gan Anwen Francis

HENO, nos Fawrth, fe fydd y noson gyntaf o adloniant i ddathlu dechrau Gwyl Fawr Aberteifi – un o'r digwyddiadau mwyaf pwysig yng nghalendr yr ardal a thu hwnt.

I ddechrau'r wythnos o ganu a llên, bydd CICA, sef nifer o ieuenctid yr ardal yn cyflwyno eu sioe ' Sôn am Sgandal' yn Ysgol Uwchradd Aberteifi, a hynny i ddechrau am 7.30yh.

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad yma, a fydd hefyd yn cael ei gyflwyno ar y nos Iau, ar gael oddi wrth swyddfeydd DMB Davies yn Aberteifi neu wrth y drws ar y noson.

Ar y nos Fercher am 7.30yh, Castell Aberteifi fydd yn gartref i gystadleuaeth Talwrn y Beirdd a'r Babell Lên gyda phedwar tîm yn brwydro'n galed i fod yn fuddugol. Y pedwar tîm fydd: Tan-y-groes, Ffostrasol, Glannau Teifi a Fforddolion o Gaerfyrddin.

Cynhelir yr Eisteddfod ar nos Wener i gychwyn am 4.30yp ac eto ar y dydd Sadwrn, i ddechrau am 10.30yb. Ar y dydd Sul, aelodau o Gapel Mair fydd yn trefnu'r Gwasanaeth yn y Ganolfan Hamdden am 10yb a chynhelir cyngerdd gyda'r hwyr i ddechrau am 7 o'r gloch, sef Cyngerdd Aduniad yng nghwmni Côr Godre'r Aran a Chantorion Teifi, gyda'r unawdydd o'r Canolbarth, Heulen Cynfal.