Cofnodir marwolaeth Mr Vaughan Davies, Tregynon, Penparc. Bu farw yn dawel yn ei gartref yn 87 mlwydd oed ar Ionawr 11.

Ganwyd Vaughan Davies yn Nantycroi, Ferwig, roedd ei dad yn wreiddiol o Lanybydder a'i fam o Gwm Gwaun. Fe'i addysgwyd yn Ysgol Gynradd Y Ferwig, cyn ennill ysgoloriaeth i Ysgol Ramadeg Aberteifi. Ond fe benderfynodd mai amaethu oedd ei alwad Yna ar fferm Nantycroi bu'n gweithio yn galed drwy ei oes nes ymddeol yn 81 oed ac ymgartrefi ym Mhenparc.

Yr oedd capel Siloam, Y Ferwig yn agos at ei galon drwy ei oes a bu'n ddiacon ffyddlon i'r Achos am dros 40 mlynedd. Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol preifat at Ionawr 17, yn gyntaf ar yr aelwyd ac yna yng nghapel Siloam dan ofal ei weinidog, y Parch Gareth Morris. Cafwyd darlleniadau gan Iwan Lewis a Giles Evans. Talwyd teyrnged addas ac urddasol iddo gan ei weinidog.

Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth y Parchn John Powel ac Eirian Wyn Lewis.

Yr organydd oedd Mr Samuel Owen. Yr archgludwyr ar yr aelwyd oedd Huw ac Aled Meredith (wyrion); Gwyndaf James a Goronwy Thomas, ac yn y capel Roy Vaughan, Owen Davies, Martin Evans a Wyn Thomas.

Y prif alarwyr oedd Beryl (gwraig); Delyth a Goronwy, Buddig a Steven (merched a meibion-yng-nghyfraith); Huw ac Aled (wyrion); Mair Rees (chwaer); Glenys Williams, Tom ac Annie James (brawd-yng-nghyfraith a chwiorydd-yng-nghyfraith); Myrfyn a Marian Owen, Ken, Rosemary a Timothy Rees, Gerwyn Williams, Robert James ac Elizabeth Harewood (neiaint a nithoedd) ynghyd â pherthnasau, ffrindiau a'i gyd-ddiaconiaid yn Siloam.

Methodd David a Jan Rees, Ffrainc, Delyth James a Nigel Harewood (neiaint a nithoedd) a bod yn bresennol.

Rhoddwyd plethdorch gan y teulu agos yn unig.

Dymuna'r teulu ddiolch yn ddiffuant i'r Parch Gareth Morris am ei ffyddlondeb cyson yn ystod cyfnod afiechyd Vaughan.

Yr oedd trefniadau'r angladd yng ngofal Mr Colin Phillips, Aberteifi, ac y mae'r teulu yn ddiolchgar iddo am bob cymorth.