Cofnodir marwolaeth David Lloyd Davies, Penrallt, Mynachlogddu (gynt o Fferm y Capel) a fu farw ar Hydref 24, yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin yn 81 oed.

Ganwyd Lloyd yn nhyddyn Dangarn, Mynachlogddu, yna symudodd y teulu i fferm Glynsaithmaen ar l marwolaeth ewythr. Mynychodd Ysgol Gynradd Mynachlogddu ac Ysgol Ramadeg Aberteifi, ac ar l gyrfa lwyddiannus yn yr ysgol penderfynodd ddilyn ei anian a dod adref i amaethu yng Nglynsaithmaen.

Wedi priodi Beti yn 1950 ymgartrefodd ym Mhenrallt a ganwyd dau fab iddynt sef Cerwyn a Dyfed. Symudodd i Fferm y Capel yn 1963 a phrynodd fferm Pantithel yn 1968. Erbyn heddiw mae'r ddau le yn gartrefi i'w feibion a'u teuluoedd.

Er mai gwr y filltir sgwr oedd Lloyd yn bennaf roedd ganddo ddiddordebau eang a bu'n cymryd rhan flaenllaw mewn nifer o gymdeithasau. Adnabu ei fro a'i phobl yn drwyadl ac roedd bob amser yn barod ei gymwynas a'i gyngor. Bu'n Ynad Heddwch am dros ugain mlynedd gan wneud ei orau i weinyddu cyfiawnder yn ei ardal.

Roedd wrth ei fodd yn bugeilio'r defaid a bu'n allweddol i sefydlu'r arfer o anfon defaid y Preseli i Gastell Martin yn ystod misoedd y gaeaf. Roedd capel Bethel yn agos iawn at ei galon a bu'n ysgrifennydd gohebol yr achos am gyfnod maith.

Fel arwydd o barch daeth tyrfa luosog i'w angladd ar Hydref 28 ym Methel Mynachlogddu. Cafwyd gwasanaeth preifat ar yr aelwyd ym Mhenrallt yng ngofal ei weinidog y Parch Eirian Wyn Lewis gyda chymorth Mr Eric John ac yn y gwasanaeth cyhoeddus ym Methel cafwyd cymorth y Tra Barch Saunders Davies, y Parchn Emyr Gwyn Evans, Howell Mudd, Islwyn Selby a Mr Iwan Lewis.

Derbyniwyd ymddiheuriad oddi wrth y Parchn Denzil James a Llinos Edwards. Yn ei deyrnged cyfeiriodd ei weinidog ato fel capelwr, cymwynaswr a chyfaill ac ar ddiwedd ei anerchiad adroddodd englynion er cof gan Wyn Owens, Eifion Daniels a Cerwyn ei fab.

Y prif alarwyr oedd Beti (priod); Cerwyn ac Ann, Dyfed a Bethan (meibion a merched-yng-nghyfraith); Elin, Mari, Lisa, Sara, Gwen ac Elan (wyresau); Aeres ac Alun (chwaer a'i phriod); Dilys (chwaer-yng-nghyfraith); Eluned ac Alun, Hefin, Rhys, Alan, Mair, Llinos, John ac Eirioan, Mary, David a Daniel, Gwawr, Elfed, Fflur ac Erin (neiaint a nithoedd); Myfanwy Thomas (cyfnither); Haydn Parry (gweithiwr ffyddlon) yn ogystal nifer o berthnasau rhy niferus i'w henwi. Methodd Mrs Sarah Ann Owens (chwaer); Mrs Pattie Llewelyn (chwaer-yng-nghyfraith) a Buddug Davies a Siriol Dafydd (nithoedd) fod yn bresennol.

Dosbarthwyd y taflenni gan Howard Lewis, Jackie Phillips ac Arwel Thomas. Yr archgludwyr oedd Robert Davies, Euros Griffiths, Andrew James, Richard Lawrence, Huw Owens a Sidney Thomas. Yr organyddes oedd Cymraes Davies ac arweinydd y gn oedd Islwyn Davies. Rhoddwyd blodau i'r capel gan Hefin a Haulwen Parri Roberts.

Gosodwyd plethdorchau gan y teulu agosaf a derbyniwyd rhoddion ariannol drwy law Mr Hefin Parri Roberts i gapel Bethel a Meddygfa Rhiannon, Arberth. Trefnwyd yr angladd yn urddasol gan Mr W J Kenneth Davies a'i Feibion, Clunderwen.

Er cof am Lloyd Ym Methel fel amaethwr - drwy ei oes Bu'n driw i'w Greawdwr, O Sul i Sul cadwai'n siwr Ei dyddyn fel Bedyddiwr.

Wyn Owens Ym Methel bu'n amaethu - ei herwaun A chariad bu'n llyfnu, Ei ddl oedd Mynachlog-ddu A'i dalar oedd ei deulu.

Eifion Daniels Ei nef oedd gyda'i ddefaid - ar y Foel, Ar ei faes yn enaid I ddal sylw ei ddeiliaid, O'i stad bu'n dad ac yn daid.

Cerwyn Davies