Bu'n gyfnod prysur iawn yn Llandudoch wrth i Wyl Llandudoch ddigwydd am y trydydd tro. Un o'r digwyddiadau newydd eleni oedd noson (Gig') gan bedwar o fandiau modern. Ym mhlith y dyrfa roedd criw o fyfyrwyr o Aberystwyth wedi dod i fwynhau.

A dyma beth oedd gan un ohonyn nhw, Lowri Johnson o Gaerfyrddin, i ddweud am y noson : Gig yn Llandudoch. Tri band o'r ardal ac un o'r gogledd. Doedd dim syniad 'da fi beth i'w ddisgwyl. Dyma'r tro cyntaf i fi fod mewn gig yn y pentref a rhaid fi ddweud ces i sioc ar yr ochr orau wrth weld y neuadd lle roedd y gig yn cael ei chynnal. Mae'n neuadd wych, fodern a mawr.

Digon o le ar gyfer llawer o fyrddau a chadeiriau a gwagle enfawr fel llawr dawnsio. A llwyfan! Go iawn! Dyma ddechrau da i'r noson felly. Gyda'r lle yn weddol llawn o'r dechrau, dyma Garej Dolwen yn dod i'r llwyfan.

Chwaraea Garej Dolwen, sy'n fand lleol, yn rheolaidd yn yr ardal. Mae llais Einir (prif lais) wedi datblygu'n aruthrol o ganlyniad iddi ennill Waw Ffactor - mae'r gystadleuaeth yn amlwg wedi gwneud llawer o les i'w hunanhyder ac i'w pherfformiad.

Mae hi'n chwarae gitr hefyd sy'n ychwanegu rhywbeth gwahanol i'r band ac yn rhoi mwy o ganolbwynt iddi hi fel prif leisydd. Perfformiad da gan y band cyfan.

Band lleol arall sydd i ddilyn - gyda dau o'r aelodau hefyd yn Garej Dolwen - ond mae i'r ddau fand swn gwahanol. Mae Ha Kome'n fand sydd wedi datblygu llawer ers i mi eu gweld tro diwethaf yng nghlwb rygbi Crymych ryw flwyddyn yn l. Gan fod aelodau'r band ar wasgar mewn amryw golegau mae'n anodd iddynt ymarfer a chwarae'n gyson, ond dyw hyn ddim yn amlwg o'r perfformiad.

Rydw i'n hoff iawn o "colli'r trn" ac "aelwyd breuddwydion". Er bod eu cerddoriaeth yn ysgafn ac yn hawdd gwrando arno, dyw e ddim yn syml o gwbl ac mae'n amlwg fod gan Steffan (allweddellau a prif lais) dalent cerddorol aruthrol. Mae lleisiau Siwan a Steffan yn gweddu'n hyfryd - mae llais cefndir Siwan yn ychwanegu rhywbeth gwahanol i'r caneuon. Set dda iawn, ac erbyn iddo ddod i ben mae nifer o'r gynulleidfa ar eu traed yn dawnsio.

Pala o Lanuwchllyn sydd i ddilyn, er bod tri allan o bedwar o'r aelodau yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae harmoneiddio Branwen Mair (prif lais) a Branwen Haf (llais cefndir ac allweddellau) yn berffaith, a drymio Osian yn wych - heb anghofio Aled Pen Wy' ar y bas yn cadw popeth gyda'i gilydd!

Mae'r set yn cynnwys nifer o'r ffefrynnau - sawl un yn ymddangos ar eu ep cyntaf sydd allan yn y siopau nawr - prynwch hi! Dwi'n arbennig o hoff o Blodeuwedd, Seren Gynta'r Nos ac Eglura. Mae llais Branwen Mair yn eu fersiwn o Gn Walter yn rhoi ias lawr fy nghefn a gwneud i bawb sy'n dawnsio sefyll yn llonydd gan fethu tynnu eu llygaid o'r llwyfan!

Ac yna, at Mattoidz. Yn un o fandiau prysuraf a mwyaf gweithgar Cymru, maen nhw'n hollol wych heno. Ble bynnag mae'r gig, pwy bynnag yw'r gynulleidfa a sut bynnag mae'r band yn teimlo, maen nhw o hyd yn rhoi cant y cant mewn i bob perfformiad. Er bod y gerddoriaeth yn dda iawn, mae'r perfformiad yn ffantastig. Dyma fand fyddai'n ffitio mewn yn berffaith mewn arena fawr gyda channoedd yn eu gwylio - ond am heno ni yn Llandudoch sy'n cael y fraint - ac maen nhw i'w gweld yn mwynhau'n llwyr.

Mae'r caneuon arferol yn cael eu chwarae - i'r un lefel uchel ag arfer - Trani Drws Nesa', Ty yn Tidrath, Sos Coch, Angel a llawer mwy. Ond yn ogystal 'r hen ffefrynnau, cawn flas o'u caneuon newydd sy'n swnio'n wych! Maen nhw'n cyfathrebu'n dda iawn gyda'r gynulleidfa, sy'n ymateb trwy ddawnsio'n wyllt i bob cn a phawb yn diferu chwys wedi iddyn nhw orffen, ar l dawnsio cymaint!

Noson lwyddiannus iawn felly. Roedd hi mor braf gweld cymaint o blant ysgol yn y gig yn dawnsio ac yn mwynhau. Dyma beth sy'n gwneud gigs mewn llefydd gwledig mor arbennig ac mor wahanol i gigs yn y brif ddinas. Er bod bandiau o hyd eisiau gigs yn y brif ddinas, credaf yn gryf mai cynulleidfa fel yr un yn Llandudoch sy'n bwysig - y ffans go iawn' fydd yn mynd allan ac yn prynu CDs. A dyma sy'n creu ac yn cynnal sn gerddoriaeth. Gobeithio bydd llawer mwy o nosweithiau ar y gweill yn Llandudoch!