Dywedodd rhywun rywbryd nad oedd neb heblaw twpsyn yn ysgrifennu'n ddi-dl.

Os felly, mae'n amlwg nad oedd e'n gyfarwydd rhai o feirdd (a cholofnwyr) y cornel hwn o'r ddaear.

Ac os ydych am brawf digamsyniol o hwn, dewch i'r Llew Du, Aberteifi, ar nos Wener, Mehefin 16 i helpu'r beirdd (lleol a chenedlaethol) godi arian at achos teilwng dros ben, sef LATCH (Llandough Aims to Treat Children with Cancer and Leukaemia with Hope).

Ar y noson bydd timoedd o feirdd yn ymryson 'i gilydd - ond oherwydd safon aruthrol y timoedd hyn (ynghyd 'u natur gecrus), bydd yn rhaid cael tri beirniad i'w cadw rhag gyddfau'i gilydd. A'r tri barnwr bach dewr yw Tudur Dylan Jones, Emyr Y Graig' Davies a'r colofnydd hwn. Ein gwaith ni hefyd fydd ceisio difyrru'r gynulleidfa tra bod timoedd Idris Reynolds, Ken Y Graig' Griffiths ac Eurig Salisbury yn cwblhau eu tasgau.

Cynhelir ocsiwn yn ogystal, gyda chyfle i ennill dwy wobr arbennig iawn, sef cerdd gan un o brifeirdd amlycaf Cymru yn llawysgrifen y bardd hwnnw, ynghyd 'r cyfle i gomisiynu prifardd arall i weithio cerdd yn arbennig ar eich cyfer chi, neu at ryw achlysur a nodir gennych chi.

Trefnir y noson gan Elin Griffiths, Penparc (neu Pen-y-parc) gan ei bod hi'n bwriadu cyn bo hir ddringo i ddinas goll yr Incas, sef Machu Picchu, ym myny-ddoedd yr Andes yn enw yr un elusen. Fe fydd yn gwneud y daith anturus hon yng nghwmni ffrind iddi o Gaerdydd, sef Catrin Mears.

Mae Catrin (sydd, fel Elin, yn aelod o gorau adnabyddus Cywair a Cytgan) yn codi arian i CLlC Sargent, sef mudiad arall sy'n cynnig cefnogaeth i deuluoedd dioddefwyr leukaemia. Gwyr Catrin o brofiad greulondeb y clefyd hwn gan iddi golli ei chyfnither, sef Gwenno, fis Medi'r llynedd. Gwyr hefyd am ymroddiad yr elusennau hyn; mudiadau sy'n dibynnu'n llwyr ar gefnogath y cyhoedd a gweithgareddau codi arian er mwyn cynnal eu gwaith.

Dewch am dro felly i fyny grisiau'r Llew Du am 7.30 ar nos Wener, Mehefin 16. Does neb yn gofyn i chi ddringo'r Andes: mae Elin a Catrin yn fodlon gwneud hynny ar eich rhan chi. Ac mae'r beirdd am roi help llaw iddynt - o ddiogelwch cysurus y bar a'u bar-ddoniaeth!