A haloch chi lythyr at bapur newydd erioed?

Os na wnaethoch, a fuoch chi'n ystyried gwneud hynny erioed? Os felly, ai wedi'ch cythruddo oeddech chi? A oeddech ar ben eich tennyn ac yn daer am arllwys eich cwyn yn erbyn rhyw gam neu anghyfiawnder? Neu a oedd gennych ryw oleuni i'w gynnig ar broblem ddyrys a ddrysai eich cyd-ddyn?

Neu am weld eich enw mewn print oeddech chi?

Beth bynnag eich atebion i'r cwestiynau uchod, mae'n siwr y cytunwch fod colofnau llythyron ein papurau lleol a chenedlaethol yn cynnig darllen difyr - a darllen rhwystredig iawn hefyd, 'wedwn i.

Cymerwch dudalen lythyron y 'Teifi-seid', er enghraifft. Sgwn i a ydych chi'n gweld y dudalen honno yn cynrychioli eich buddiannau a'ch gofidiau chi? Sgwn i a ydyw'n ddrych o gymdeithas ardal Aberteifi ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain? Ac a fyddai'r darllenydd estron yn gallu adnabod cymeriad yr ardal honno drwy ddarllen y llythyron? Yn wir, a oes gan ardaloedd penodol gymeriad penodol bellach?

Bm i ar fin hala llythyron i'r 'Teifi-seid' droeon - yn enwedig yn wyneb bigotri ac anwybodaeth y sawl fu'n ymosod ar yr iaith Gymraeg neu ar y ffordd o fyw sy'n gysylltieidig 'r iaith honno. Ond i beth? Yn y pendraw, y mae pob llythyr mewn colofn lythyron fel un y 'Teifi-seid' gyfwerth 'i gilydd. Fe'u gwelir fel ymdrechion i gael y gair olaf ar ba bynnag bwnc a drafodir. Prin yw'r esiamplau o ddadlau synhwyrol, adeiladol a sylweddol. Ac nid yw rhestr o 'ffeithiau', gyda llaw, na chwaith ergydion dirmygus, yn gyfystyr dadl synhwyrol, adeiladol a sylweddol.

Mae dadl yn seiliedig ar ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad o'r gwrth-ddadleuon: mae'n rhagweld safbwyntiau'r gwrthwynebydd ac yn eu parchu - hyd at ryw bwynt. Mae dadl yn argyhoeddi drwy berswd a phwyll ac apl at resymeg cyfiawn.

Mae'n drueni, felly, i'r gair 'dadlau' ddod yn gyfystyr 'chwympo ms' yn ein hiaith bob dydd, oherwydd, i mi, mae rhywbeth gwr iawn mewn dadl. Mae'n gyfaddefiad deallusol fod mwy nag un ffordd o ddatrys problem. Ond mae'n gyfaddefiad moesol hefyd, sef fod yn rhaid dod o hyd i'r ffordd fwyaf cyfiawn o'i datrys.

Colofn ysgafn oedd hon i fod yr wythnos hon. Ac rwy'n ymddiheuro i mi wyro o'r trywydd hwnnw. Beth am gwpla fel hyn 'de?

Annwyl Olygydd, Mae'n hen bryd i ni dynnu'r hen gastell salw lawr ac agor 'bowling alley' ac 'internet cafe' a 'paintballing park' a fferm wynt yn ei le oherwydd mae angen rhywbeth ar y bobol ifainc ac mae'n rhaid edrych ymlaen nid nl, ac mae ystadegau'n profi bod dymchwel hen adeiladau, a'r diwylliannau treuliedig sy'n gysylltiedig nhw, yn gwella ansawdd bywyd 83% o bobol.

Dylai pawb siarad Saesneg oherwydd mae ffeithiau'n profi taw Saesneg yw iaith fwyaf poblogaidd y byd.

Ar ben hynny, ac o ystyried datblygiad economaidd presennol Tseina, onid gwell fyddai dysgu Mandarin yn hytrach na Chymraeg fel ail iaith yn ein hysgolion? A beth bynnag, dyw'r twristiad ddim yn gallu siarad Cymraeg a does dim angen eu hypsetio nhw oherwydd nhw sy'n dod 47.6% o arian i'r ardal - a does dim byd, fel gwyr y Cardi, yn bwysicach nag arian. Ac mae pawb yn gwybod (ac mae arolwg diweddar wedi cadarnhau hyn) nad yw twristiaid (na thrwch y bobol sydd wedi symud i'r rhan hon o'r wlad, neu oedd yn byw yma'n barod, am hynny) am i Aberteifi fod yn wahanol i unrhyw rhan arall o'r wlad.

Mae angen, felly, Macdonalds neu bydd 79.86% o'n pobol ifainc yn symud i ffwrdd i chwilio am waith.

Yn gywir, Ann Noeth.