Mae gan rai bobl dalent anhygoel - talent na all y mwyafrif ohonom ond syllu arno o bell a rhyfeddu. Yn y byd cerddorol, er enghraifft, dyna i chi lais anhygoel Bryn Terfel neu ddawn aruthrol Llyr Williams ar y piano - perfformwyr sy'n sefyll gyfuwch, a gwell, goreuon y byd.

Perfformiwr o'r un safon yw Catrin Finch hithau. Yn l Karl Jenkins, y cyfansoddwr, dyma delynores orau'r byd. Fel Bryn Terfel, mae Catrin hefyd wedi teithio'r byd a rhyfeddu cynulleidfaoedd gyda'i dawn aruthrol. Ond nid perfformio'n unig sy'n myd 'i bryd. Gellir dweud ei bod hi ar genhadaeth i boblogeiddio'r delyn fel offeryn cerdd, ac ysgwyd y llwch oddi ar offeryn cerdd traddodiadol a hen ffasiwn. 'Does dim dadlau - mae hi wedi llwyddo i wneud hynny.

Nid yn aml y daw'r cyfle i groesawu talent o'r maint yma i gyngerdd yn y parthau hyn. Ond dyma'n union y mae Cymdeithas Llandudoch yn ceisio gwneud wrth drefnu Gwyl Llandudoch yn flynyddol. Eleni, ar Fai 7, bydd Catrin Finch yn rhoi cyngerdd awyr agored yn Abaty Llandudoch fel rhan o'r Wyl. Bydd yn dod a grwp offerynnol o ffrindiau gyda hi i'w chefnogi, a bydd y cr arobryn Cytgan - sy'n nodedig am berfformio heb arweinydd - hefyd yn rhan o'r un gyngerdd. Cafwyd cyngherddau tebyg gan Aled Jones, Cr Meibion Treorci a llu o dalentau lleol yn y gorffennol a buont yn llwyddiant mawr. Ryffordd neu gilydd, mae naws hynafol yr hen abaty a cherddoriaeth o safon uchel yn plethu at ei gilydd i greu awyrgylch hyfryd.

Bydd Cr Ysgol Gerdd Ceredigion hefyd yn cynnal cyngerdd yn yr abaty yn ystod yr wyl - mae Islwyn Evans, cyfarwyddwr cerdd y cr yn hoff iawn o'r abaty fel safle i gyngerdd. Dyma gr sydd wedi hen ennill ei blwyf yng Nghymru a thu hwnt, ac un sy'n llwyddo i wefreiddio cynulleidfa dro ar l tro.

Yn ogystal 'r ddau gyngerdd awyr agored, bydd digwyddiadau eraill hefyd. Bydd Eisteddfod Llandudoch yn digwydd, fel arfer, gan geisio denu'r gorau o gystadleuwyr i gystadlu am y gwobrau mawr sydd ar gael yn Eisteddfod yr Hwyr. Caiff y cr buddugol £1000 o wobr, ac mae'r gwobrau i'r cystadlaethau unigol hefyd yn hael. Fel llynedd, caiff y cystadlaethau llenyddol eu beirniadu mewn noson o lenydda - cystadleuaeth Talwrn y Beirdd fydd yn digwydd ychydig nosweithiau cyn yr Eisteddfod ei hun. Bydd pedwar o dimau Talwrn yn ymgiprys eleni dan law ofalus ein meuryn, y Prifardd Dic Jones.

Digwyddiad newydd i'r Wyl eleni yw Gig yr Wyl - pedwar o grwpiau modern a chysylltiadau 'r ardal yma yn perfformio mewn noson gyda'i gilydd: Mattoidz, Ha Kome, Garej Dolwen a Pala. Arbrawf newydd i geisio rhoi'r ieuenctid yng nghanol y gweithgareddau.

Hefyd yn ystod y bythefnos, bydd cyfle arall i weld y ddrama 'Linda, Gwraig Waldo' o waith Euros Lewis a enillodd cymaint o ganmoliaeth pan fu ar daith yng Ngheredigion a Phenfro rai wythnosau nl.

Mae dau fwriad Wyl Llandudoch - rhoi hwb i fywyd cymunedol Llandudoch a'r ardaloedd cyfagos, a cheiso sicrhau bod y gorau o fyd diwylliant a chelfyddyd yn cael eu gweld yn ein cornel fach ni o Gymru. Cadwch lygad am y rhaglen, ac ymunwch yn y bwrlwm.