Mae Einir Dafydd o Flaenffos, ger Crymych wedi cyrraedd y rownd gynderfynol yn rhaglen dalent S4C WawFfactor.

Mae hi 'nawr yn y pedwar olaf yn dilyn ei pherfformiad ar y rhaglen nos Wener ddiwethaf. Bydd hi ar y rhaglen nesaf yn y gyfres ar ddydd Gwener Mawrth 24 am 8.25 y nos.

Yr wythnos hon ar WawFfactor fe fydd gan y pedwar lwcus gyfle i weithio gyda rai o gyfans-oddwyr gorau Cymru gan gynnwys enillydd diweddar Cn i Gymru 2006 Ryland Teifi; Geraint Cynan, Rob Reed a Gethin Thomas.

Wrth i nifer y cystadleuwyr ostwng bob wythnos, mae'r beirniaid yn mynd yn galetach a'r gystadleuaeth yn anoddach. Pwy sydd 'r ddawn arbennig i'n wawio ni a pha un sy'n cael ei hanfon adref ar ddiwedd y rhaglen? Mae'r frwydr yn parhau wrth i'r perfformwyr drio profi fod ganddyn nhw'r WawFfactor yn y sioe gynhyrfus yma.

Yn dilyn y rhaglen nos Wener, lle bu'r chwech yn canu mewn gig yn Abertawe, dywedodd Einir, "'Odd y gig yn grt. Gan fy mod i wedi arfer canu mewn gigs, odd hwnna 'di helpu fi perfformio yn y gig nos Wener. 'Odd hi'n brofiad da i ni gyd ac oedd awyrgylch arbennig yn y stafell.

"'Nes i fwynhau mas draw yn y stiwdio eto nos Wener ond 'roeddwn i lot fwy nerfus y tro ma gan fy mod yn gwybod bod safon y gystadleuaeth yn sicr wedi codi. Ar l clywed ymateb y beirniadi i bawb arall, oni'n fwy nerfus fyth. Wrth lwc, 'naethon nhw fwynhau fy mherfformiad ac o ni wrth fy modd gyda'r holl ganmoliaeth. Mi wnes i drio rhoi fy stamp fy hun arno fe i wneud e'n fwy diddorol, felly, oni'n hapus gyda'n fersiwn i!"

"Ges i sioc pan alwon nhw fy enw i mas gyntaf, 'odd e'n ryddhad gwbod bo fi drwy. Dwi mor falch fy mod i wedi mynd trwy a dwi methu aros nawr tan y rownd gynderfynol! "

Yn rownd gynderfynol WawFfactor bydd Aimee-Ffion Edwards o Gasnewydd, Beca Richards o Langynog, ger Caerfyrddin, Einir Mai Dafydd a Nathan Whiteley o Wrecsam yn cystadlu am le yn ffeinal WawFfactor lle bydd cyfle i ennill coron WawFfactor 2006 a chyfle i recordio cryno ddisg ac i ymddangos ar nifer o raglenni S4C.