Cynhaliwyd treialon cwn defaid Castell Newydd Emlyn a’r Culch ar Awst 7fed ar gae blaen Bowie, drwy ganiatad caredig Mr a Mrs Guto Jones.

Bu’r diwrnod yn lwyddiant arbennig, gyda nifer uchel o gystadleuwyr o Gymru a thramor. Cafwyd gwaith trylwyr gan y dyfarnwr Mr John Rees, Llandudoch, ynghyd a’r amserydd, Mr Hazelby.

Mae’r gymdeithas yn ddiolchgar iawn i Mrs Audrey Baker, Edida J, Castell Newydd Emlyn, ein llywydd, am eu chefnogaeth hael. Diolchir hefyd i gwmni Windjen, a Ceiros Davies Plant Hire am noddi y gwobrau ariannol.

Rhoddi’r cwpanau i’r enillwyr gan Harold Evans, John Evans a Howard Evans.

Yn ol yr arfer, bydd yr elw yn cael ei rhoi tuag at elisen lleol.

Canlyniadau: Arddull Genedlaethol Agored (Open National Style) 1. Gwynfor Thomas, Llanon 2. Idris Morgan, Aberystwyth 3. Charlie Short, Talog 4. Gwynfor Thomas, Llanon 5. Lloyd Jones, Tregaron 6. Martha Morgan, Tregaron.

Arddull De Cymru Agored (Open South Wales Style) 1. Idris Morgan, Aberystwyth 2. Lloyd Jones, Tregaron 3. Colin Gordon, Gower 4. Martha Morgan, Tregaron 5. Emyr Lloyd, Llandrystud Arddull De Cymru – Dechreuwyr (South Wales Novice) 1. Glyn Howells, Caerfyrddin 2. Irwel Evans, Ystrad Meurig 3. Pat Stebbings, Pentre Cwrt, Llandysul