Gwersyll Llangrannog yn gwneud eu rhan i gadw Cymru’n daclus! Ar dydd Llun 23 Mehefin cymerodd dros 280 o blant Gwersyll yr Urdd Llangrannog ran mewn taith gerdded i lawr i Langrannog fel rhan o wythnos Cadw Cymru’n Daclus.

Dosbarthwyd teclynnau casglu sbwriel, bagiau a menig i’r plant ac fe gasglwyd pob briwsyn o sbwriel ar hyd y daith. Mae’r llwybr arfordirol wedi cael ei droedio gan gannoedd ar filoedd o blant y Gwersyll ers ei sefydlu yn 1932, a braf oedd gweld plant heddiw yn cael y cyfle i werthfawrogi’r golygfeydd ar bywyd gwyllt o’i hamgylch. Dywed Lowri Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Llangrannog "Mae wedi bod yn bleser gweithio mewn partneriaeth gyda Cadw Cymru’n Daclus, ac yn gyfle heb ei ail i addysgu plant a phobol ifanc am bwysigrwydd a manteision gofalu am yr amgylchedd. Roedd yn olygfa gwerth ei gweld gyda dros 280 o blant o bob cwr o Gymru yn mwynhau ac yn gwerthfawrogi yr hyn sydd gyda ni yng Ngheredigion, ac yn gwneud ei rhan hwy i’w gadw"