Dic Jones, y bardd a’r amaethwr o Flaenannerch, fydd Archdderwydd Cymru am y tair blynedd nesaf. Cyflwynwyd yr awenau iddo gan y Cyn-Archderwydd, Selwyn Iolen, yn y Bala ar Sadwrn olaf Mehefin ac un o orchwylion cyntaf Dic yr Hendre oedd cyhoeddi y byddai'r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn y dref honno ymhen blwyddyn a mis. Er bod y tywydd yn ddigon pryfoclyd, penderfynwyd y dylai’r Orsedd orymdeithio drwy’r dref a chynnal y seremoni yn yr awyr agored yn hytrach na than do yn y Neuadd Chwaraeon. Bu hwn yn benderfyniad dewr a doeth cans gwireddwyd ffydd y trefnwyr. Ciliodd y cymylau a chafodd y dorf sylweddol a gasglodd ar hyd strydoedd y Bala ac o gylch y meini fwynhau’r pasiant lliwgar ‘yng ngwyneb haul llygad goleuni’. Yn eu mysg yr oedd dau lond bws o bobol godre Ceredigion a deithiodd i fyny i’r Bala i gefnogi ac i ddymuno’n dda i’r Archdderwydd newydd. Ymfalchïent fod un o’u plith wedi derbyn y fath anrhydedd. Edrychir ymlaen at y tair blynedd nesaf pryd y caiff Dic gyfle i osod stamp ei bersonoliaeth fawr ar y swydd unigryw hon.