Bydd Cerddwyr Cylch Teifi yn dechrau eu tymor newydd ym mis Hydref a bydd croeso i bawb i ymuno â nhw.
Y Gymraeg yw iaith y teithiau ond mae croeso i ddysgwyr o bob safon sy'n barod i beidio troi sgyrsiau'n Saesneg.
Bydd y teithiau misol ar ddyddiau Sadwrn yn dechrau am 10.30yb ac fel arfer yn gorffen erbyn 12.30yp neu 1yp. Weithiau trefnir man i gymdeithasu ar ôl cerdded i'r rhai sy'n dymuno. Y ddwy daith gyntaf fydd:
Hydref 14 - yn ardal Aberteifi gyda Terwyn Tomos
Tachwedd 11 - yn ardal Cilgerran gydag Ali Evans
Yn ystod y flwyddyn, bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys teithiau yn ardaloedd Pont-Tyweli, Llangrannog, Trewyddel, Cenarth, Pwll Gwaelod, Pen-parc a Boncath.
Gan fod Covid wedi ymddangos eto, bob tro, mae gofyn i’r cerddwyr fod yn wyliadwrus er mwyn peidio lledu'r haint, gan
• Sicrhau eich bod wedi cael y brechiadau sydd ar gael ichi;
• Ceisio cadw rhyw bellter cymdeithasol rhesymol oddi wrth gerddwyr sy’n perthyn i aelwydydd eraill;
• Peidio â dod ar daith os ydych chi’n hunan-ynysu, neu'n dangos unrhyw symptom sy’n gysylltiedig â’r haint.
Ni hysbysebir bob taith yn y papurau bro a'r papurau newyddion, gan fod pethau’n gallu newid ar fyr rybudd. Ond mae croeso ichi gysylltu er mwyn rhoi'ch enw ar y rhestr e-bostio i gael y manylion fis neu wythnos ymlaen llaw.
Cysylltwch â Philippa Gibson philippa.gibson@gmail.com neu 01239 654561.
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules here