HERE are the death notices published in the Tivyside Advertiser on May 2.

To place a notice, click here.

Muriel Davies (Crymych)

Yn dawel yn ei chartref ddydd Mawrth, Ebrill 25, Muriel “Mu” Sylvia Davies, Siberia, Crymych, yn 81 mlwydd oed. Priod annwyl Dannie, mam a mam-yng-nghyfraith dyner Wyn a Niccola, Delyth a Gareth, 'Nan' balch a chariadus Dafydd, Cadi a Sion, a chwaer hoffus.

Gwasanaeth cyhoeddus ddydd Sadwrn, Mai 6 yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth am 10.45 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig, rhoddion, os dymunir, i 'Ymatebwr Cyntaf, Crymych' trwy law Mrs Lowri Evans, Trefnyddion Angladdau Colin Phillips a'i Ferched, 4 Stryd Morgan, Aberteifi Ffon: 01239 621192.