Ar ôl cyfnod o dair blynedd yn dilyn y Pandemic Covid 19 daeth Eisteddfod Gadeiriol Capel Bryngwenith yn ôl er mawr llawennydd i bawb.

Cadeirydd yr Eisteddfod eleni oedd Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake. Arweinyddion - y Parchedig Carys Ann a Geraint James, Arwerthwr gyda chwmni Dai Lewis, Castell Newydd Emlyn. Beirniaid Cerdd y Fns Gwawr Owen, Caerdydd a Beirniad Llėn a Llefaru oedd y Fns Bronwen Morgan, Llangeitho. Cyfeilyddes y Fns Lyn James, Adpar.

Tivyside Advertiser: Llefaru Blwyddyn 3-4 Agored 1 Sara Lewis, 2 Elsa Evans. Picture: Barry AdamsLlefaru Blwyddyn 3-4 Agored 1 Sara Lewis, 2 Elsa Evans. Picture: Barry Adams

Swyddogion Pwyllgor yr Eisteddfod yw y Parchedig Carys Ann, y Fns Elonwy James, y Fns Jillian Jones, y Fns Anne Lewis, y Fns Brenda Jones a Fns Nia ap Tegwyn. Gwerthfawrogir gymorth ymarferol y Bnr John Adams, Castell Newydd Emlyn; y Bnr Alan Davies, Penrhiw-pāl; y Bnr Emyr Jones, Castell Newydd Emlyn; y Bnr Maldwyn Lewis, Penrhiw-pāl fu yn gosod y llwyfan. Y Fns Morfydd Davies, y Fns Elsie Evans, y Fns Glenys Williams, y Fns Rhian Jones a’r Fns Rhiannon Price. Gyda diolch i unrhyw un arall fu yn gymorth mewn unrhyw fodd.

Canlyniadau Cerddoriaeth

Unawd Blwyddyn 2 ac Iau Agored. 1af Neli Evans, Henbant, Talgarreg; 2il Marged Evans, Glanllyn, Penrhiw-pāl; trydydd Non Thomas, Talgarreg.

Unawd Blwyddyn 3 – 4 Agored 1af Sara Marged Lewis, Mydroilyn. 2il Elsa Evans, Pendre, Llanfihangel y Creuddyn.

Unawd Blwyddyn 5 – 6 Agored 1af Efan Rhun Evans, Henbant, Talgarreg. 2il Iwan Marc Thomas, Pontarddulais. 3ydd Tirion Marged Thomas, Pencarreg.

Unawd Cyfyngedig i blant ysgolion cynradd sydd ā chysylltiad ā Gofalaeth y Parchedig Carys Ann. Blwyddyn 2 ac Iau. 1af Non Thomas, Talgarreg 2il Neli Evans, Henbant, Talgarreg.

Blwyddyn 3- 6 1af Efan Rhun Evans, Henbant, Talgarreg.

Parti Unsain dan 16 oed Agored Parti Carreg y Creuddyn

Unawd Blwyddyn 7 – 11 Agored 1af Sŵyn Efa Thomas, Pencarreg. 2il Fflur McConnell, Aberaeron.

Cān Werin dan 16 oed. Agored 1af Iwan Marc Thomas, Pontarddulais. 2il Fflur McConnell, Aberaeron.

Unawd Cerdd Dant dan 16 oed Agored 1af Fflur McConnell, Aberaeron. 2il Efan Rhun Evans, Henbant, Talgarreg.

Canu Emyn dan 18 oed Agored allan o Caneuon Ffydd Meia Evans, Pendre, Llanfihangel y Creuddyn ac Efan Rhun Evans, Henbant, Talgarreg yn gydradd gyntaf. 2il Iwan Marc Thomas, Pontarddulais.

Unawd Gymraeg allan o unrhyw Sioe Gerdd 1af Fflur McConell, Aberaeron.

Canu Emyn dros 50 oed Agored – Daniel Rees, Waungilwen.

Her Unawd Gymraeg Agored – Gerwyn Rhys, Porthyrhyd.

Triawd canu Emyn dros 18 oed Agored. 1af Gwyndaf James, Bryngwyn. Daniel Rees, Waungilwen a Gerwyn Rhys, Porthyrhyd.

Tivyside Advertiser: Llefaru Blwyddyn 5-6 Agored 1 Meia Evans, 2 Evan Evans, 3 Iwan Thomas. Picture: Barry AdamsLlefaru Blwyddyn 5-6 Agored 1 Meia Evans, 2 Evan Evans, 3 Iwan Thomas. Picture: Barry Adams

LLEFARU

Llefaru Blwyddyn 2 ac iau. Agored. 1af Ifan Morris, 2il Bethan Llywelyn, Llanwnnen. 3ydd Neli Evans, Henbant, Talgarreg.

Llefaru Blwyddyn 3 – 4 Agored – 1af Sara Marged Lewis, Mydroilyn. 2il Elsa Evans, Pendre, Llanfihangel y Creuddyn.

Llefaru Blwyddyn 5 – 6 Agored – 1af Meia Evans, Pendre, Llanfihangel y Creuddyn. 2il Efan Rhun Evans, Henbant, Talgarreg. 3ydd Iwan Marc Thomas, Pontarddulais.

Llefaru Cyfyngedig i blant ysgolion cynradd ā chysylltiad ā Gofalaeth y Parchedig Carys Ann. Blwyddyn 2 ac iau. 1af Neli Evans, Henbant, Talgarreg 2il Non Thomas, Talgarreg.

Llefaru Cyfyngedig blwyddyn 3-6 i blant ā chysylltiad ā Gofalaeth y Parchedig Carys Ann. 1af Efan Rhun Evans, Henbant, Talgarreg.

Parti Cydadrodd dan 16 oed Agored 1af – Parti Ysgol Sul Capel Pisgah, Talgarreg.

Llefaru Blwyddyn 7 – 11 oed Agored. 1af Sŵyn Efa Thomas, Pencarreg.

Darllen Darn o’r Ysgrythur wedi ei osod ymlaen llaw ar eu cyfer – o dan 16 oed. 1af Fflur McConnell, Aberaeron. 2il Iwan Marc Thomas, Pontarddulais.

Darllen Darn o’r Ysgrythur wedi ei osod ymlaen llaw ar eu cyfer – dros 16 oed. 1af Maria Evans (gynt Alltwalis) Rhydargaeau.

Her Adroddiad Agored dros 21 oed – Carol Davies, Trebedw. 2il Maria Evans (gynt Alltwalis) Rhydargaeau.

Tivyside Advertiser: Unawd Blwyddyn 7-11 Agored 1 Efa Thomas, 2 Fflur McConnell. Picture: Barry AdamsUnawd Blwyddyn 7-11 Agored 1 Efa Thomas, 2 Fflur McConnell. Picture: Barry Adams

LLENYDDIAETH – Cystadleuaeth y Gadair. Cerdd ar y Testun ‘Y Darlun’ enillydd Hannah Roberts, Caerdydd. Roedd y Gadair yn rhoddedig gan Sue a Malcolm, Caerdydd yn rhoddedig am eu rhieni Raymond a Mair Morgan, gynt o Brynteg, Llandyfriog ac £20. Paratowyd negeseuon i gyfarch y bardd gan y Prifardd Idris Reynolds, Brynhoffnant. Methodd y Prifardd Idris Reynolds a bod yn bresennol serch hynny aethpwyd ymlaen ā’r Cadeirio, er nad oedd y bardd buddugol Hannah Roberts, Caerdydd yn bresennol. Gwerthfawrogir arweiniad y Parchedig Carys Ann drwy Seremoni y Cadeirio. Canwyd Cān y Cadeirio yn arbennig iawn gan Gwyndaf James, Bryngwyn gyda Lynn James, Adpar yyn cyfeilio ac yn rhan bwysig hon o’r seremoni.

Cafwyd cystadlu brwd a darllenwyd gwaith y Beirdd gyda nifer fawr yn cael y cyfle i chwerthin a gwenu ar y darnau ā’r feirniadaeth. Bu’r aelod Seneddol Ben Lake yn Gadeirydd yr Eisteddfod gyda gwerthfawrogiad diffuant am ei eiriau o galondid a siars i’r dyfodol.

Gwerthfawrogir pob cyfraniad at lwyddiant y noson, y cyfraniadau Ariannol, yn arbennig Cyngor Sir Ceredigion, Pantyfedwen, ‘Emlyn Circle’ sef y Siop Cymunedol at achosion da yn nhref Castedd Newydd Emlyn, Price y pobydd Betws Ifan a Cwmni bwyd Castell Howell .

Diolch i bawb am sicrhau bod Eisteddfod Gadeiriol Capel Bryngwenith Ebrill 2023 yn llwyddiant ysgubol.