Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn gofalu am filltiroedd o lwybrau cerdded ledled Cymru sy’n berffaith ar gyfer mwynhau taith gerdded fer gyda rhywun arbennig i ddathlu Dydd Santes Dwynwen.

I nodi’r diwrnod hwn sy’n dathlu cariad ar 25 Ionawr, lapiwch yn gynnes ac ewch i edmygu parcdiroedd a gerddi sy’n gorwedd dan flanced o farrug; gan lwybro dros ôl-troed rhai o’r cyplau hanesyddol mwyaf enwog.

Ymlwybrwch i ben bryniau a dotiwch ar olygfeydd gyda rhywun arbennig, neu mwynhewch lwybr arfordirol a cherdded ar draws y tywod law yn llaw.

Dyma’r deg llwybr cerdded mwyaf rhamantus i chi eu mwynhau gyda rhywun sy’n annwyl i chi.

1. Porthdinllaen, Pen Llŷn
Pentref pysgota perffaith yn sefyll ar draeth tywodlyd sy’n gyfoeth o hanes, golygfeydd godidog a bywyd gwyllt ffyniannus. Mae ei leoliad anghysbell a’i olygfeydd o Fôr Iwerddon yn cynnig swyn o ramant.
www.nationaltrust.org.uk/llyn-peninsula/trails/porthdinllaen-marine-walk-on-the-llyn-peninsula 
 

2. Erddig, Wrecsam
Byddwch yn dod o hyd i ramant draddodiadol yn Erddig, ac yn camu yn ôl-troed y cariadon ifanc Lucy Hitchman ac Ernest Jones a oedd yn gweithio yn Erddig fel gwas a morwyn ar drothwy’r Rhyfel Byd Cyntaf. Gwnaethant ddisgyn mewn cariad a cherdded o gwmpas y parc gyda’i gilydd ambell i brynhawn. Mwynhewch eu hoff lwybr cerdded yma: https://nt.global.ssl.fastly.net/documents/erddig-secret-walk.pdf
Dolen o: www.nationaltrust.org.uk/features/top-10-secret-walks 

3. Beddgelert, Eryri
Pentref yw Beddgelert wedi nythu yng nghanol Eryri ac mae’n lle perffaith i gael dihangfa ramantus. O’r giât fochyn ger yr afon, dilynwch olygfeydd o’r mynyddoedd i ddod o hyd i fedd Gelert, a dysgu am chwedl boblogaidd helgi ffyddlon Tywysog Llywelyn. Mae’r gylchdaith hon yn eich arwain drwy goedwig hynafol nes cyrraedd ceunant trawiadol Aberglaslyn a dod yn ôl i bentref bach Beddgelert.
https://www.nationaltrust.org.uk/craflwyn-and-beddgelert/trails/aberglaslyn-bryn-du-and-beddgelert-walk
 

4. Stagbwll, Sir Benfro
Treuliwch amser gwerthfawr gyda’ch gilydd yn Sir Benfro.  Ewch â rhywun arbennig am antur drwy Byllau Lili Llanfihangel-clogwyn-gofan i ddistawrwydd Bae Barafundle. Crwydrwch ar hyd yr arfordir gan edrych i lawr ar y tonau, ac os oes gennych eiliad, dotiwch ar y machlud ar hyd Traeth Aberllydan ar eich ffordd yn ôl.
https://www.nationaltrust.org.uk/stackpole/trails/stackpole-wildlife-walk 

5. Gardd Bodnant, Conwy
Dewch i fwynhau Gardd Bodnant, gardd o safon fyd-eang yng ngogledd Cymru, gyda rhywun arbennig. Gadewch i’ch calon eich tywys ar daith aeafol o gwmpas y gerddi dan ganghennau troellog y Bwa Tresi Aur. Ymlwybrwch at y terasau rhosod i gael mwynhau’r ardd fyd-enwog drwy gromen olygfa banoramig ramantus.
www.nationaltrust.org.uk/bodnant-garden/trails/winter-garden-walk-at-bodnant-garden

 

6. Gerddi Dyffryn, Caerdydd
Cerddwch law yn llaw drwy olygfeydd a mannau clyd heb eu hail yng Ngerddi Dyffryn. Edmygwch yr ardd synhwyraidd ac ymlwybrwch drwy’r tŷ gwydr sy’n orlawn o flodau ar eu gorau fydd yn eich hudo i fyd arallfydol.
www.nationaltrust.org.uk/dyffryn-gardens/trails/explore-the-gardens-at-dyffryn
 

7. Castell Powis, Y Trallwng
Mae Cymru’n enwog am ei chestyll, ac mae Castell Canoloesol Powis sy’n eistedd yn uchel ar graig ac yn cysgodi terasau gerddi byd-enwog a golygfeydd eang ar draws y parc ceirw, yn sicr o’ch plesio. Boed yn haf neu’n aeaf, mae’r gerddi’n edrych ar eu gorau bob amser, ac yn cael eu gwarchod gan labrinth o wrychoedd ywen tocweithiol uchel. Ewch ar grwydr rhamantus ger y borderi blodau ffurfiol a cherfluniau plwm i ddod o hyd i feinciau unig wedi’u cuddio dan fwâu mawr y gwrych sgwâr er mwyn eistedd yng nghesail eich cariad ar ddiwrnod gaeafol.
www.nationaltrust.org.uk/powis-castle-and-garden/trails/explore-the-garden-at-powis
 

8. Mwnt, Ceredigion
Os ydych chi a’ch anwylyd yn mwynhau bywyd gwyllt, mae Mwnt yn draeth bychan hardd cuddiedig ac yn un o’r lleoedd gorau yng Ngheredigion i ddod o hyd i ddolffiniaid trwynbwl. Paciwch eich sbienddrychau a pharatowch bicnic i ddau, ewch i gerdded heibio’r eglwys wyngalchog fach (sy’n cynnal sawl priodas) i ben Moel y Mwnt i weld a allwch gael cipolwg o ddolffiniaid a all fod yn nofio, chwarae ac yn bwydo yn y bae islaw. I gyrraedd y traeth, dilynwch yr arwyddion ar y llwybrau lleol sy’n rhan o Lwybr Arfordirol Cymru.
www.nationaltrust.org.uk/mwnt/features/discover-mwnt
 

9. Rhosili, Y Gŵyr
Does dim yn fwy rhamantus na cherdded law yn llaw ar hyd y traeth yn gwylio’r machlud. Rhosili yw’r traeth hiraf yng Nghymru, ac mae’n cynnwys morlin dramatig, llongddrylliadau a golygfeydd o ben y graig. Cofiwch ddod yn ôl yn ystod yr haf i grwydro drwy’r caeau o flodau gwylltion gyda golygfa hardd o Ynys Weryn yn y cefndir.
www.nationaltrust.org.uk/trails/rhosili-down-hillend-and-beach-walk
 

10. Penrhyn Dewi, Sir Benfro
Mae Penrhyn Dewi yn llecyn agored ac yn nannedd y gwynt. Roedd unwaith yn fan pererindod hanesyddol a heddiw mae’n lle perffaith i ramantwyr fwynhau traethau anghysbell a bythynnod clyd dros benwythnos. Enwyd Penmaen Dewi ar ôl nawddsant Cymru, a bu’n safle diwylliannol poblogaidd ers miloedd o flynyddoedd, yn ogystal â man delfrydol i’r rhai sy’n mwynhau gwylio adar.
www.nationaltrust.org.uk/st-davids-peninsula/trails/st-davids-head-coastal-walk